Y cyn-hyfforddwr pêl-droed a’r troseddwr rhyw, Barry Bennell, wedi marw yn y carchar yn 69 oed
Mae'r cyn-hyfforddwr pêl-droed a’r troseddwr rhyw, Barry Bennell wedi marw yn y carchar yn 69 oed.
Cafodd Bennell, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Richard Jones, ei garcharu am 30 mlynedd yn 2018 ar ôl ei gael yn euog o 50 o droseddau rhyw yn erbyn 12 bachgen.
Fe wnaeth cyn-hyfforddwr Crewe Alexandra a sgowt Manchester City gam-drin bechgyn yn y 70au, 80au a'r 90au.
Bu farw Bennell yng ngharchar HMP Littlehey ger Huntingdon ar 16 Medi yn ôl y Gwasanaeth Carchar.
Cafodd Bennell ei drin am ganser am nifer o flynyddoedd a chael triniaethau er mwyn tynnu tiwmorau o'i dafod yn 2004 a 2016, ond y gred oedd ei fod wedi gwella yn 2020.
Nid yw achos ei farwolaeth wedi cael ei ddatgelu.
Cafodd Bennell ei garcharu am y tro cyntaf yn Florida ym 1994 am dreisio bachgen o'r DU ar daith bêl-droed yn America, cyn mynd ymlaen i wynebu dedfrydau carchar ym Mhrydain ym 1998, 2015, 2018 a 2020.
Yn dilyn ei euogfarnau yn 2018, datgelodd mwy na 80 o ddioddefwyr honedig eu bod wedi cael eu camdrin.
Fe wnaeth un dioddefwr ddweud ei fod yn gobeithio bod degawd olaf Bennell wedi bod "mor anodd â phosib."
Dywedodd David Lean, a gafodd ei gam-drin gan Bennell ar ôl ei gyfarfod ym mharc gwyliau Butlin's ym Mwllheli ei fod yn "falch" o glywed am ei farwolaeth.
Ychwanegodd: "Dwi'n ymwybodol fod ganddo blant, ac yn y pen draw, mae fy meddyliau i gyda'i blant heddiw, ond mae fy meddyliau i hefyd gyda'r nifer o oroeswyr yn sgil y boen y gwnaeth achosi iddynt."