Newyddion S4C

Sgandal Postfeistri: Dioddefwyr i gael cynnig iawndal o £600,000

18/09/2023

Sgandal Postfeistri: Dioddefwyr i gael cynnig iawndal o £600,000

Bydd gweithwyr Swyddfa'r Post a gafodd eu cyhuddo ar gam o ddwyn a chadw cyfrifon ffug yn cael cynnig iawndal o £600,000 yr un yn ôl Llywodraeth y DU. 

Fe gafodd mwy na 700 o bostfeistri eu herlyn, gyda rhai yn cael eu carcharu, rhwng 2000 a 2014.  

Roedd Noel Thomas, Damien Peter Owen, Lorraine Williams a Pamela Lock yn Gymry ymhlith y rhai gafodd eu cyhuddo ar gam. 

Hyd yn hyn, mae 86 o'r euogfarnau wedi cael eu gwyrdroi. 

Bydd postfeistri sydd eisoes wedi erbyn taliadau iawndal cychwynnol, neu sydd wedi cytuno ar setliad gyda Swyddfa'r Post am swm yn llai na £600,000, yn cael eu talu'r gwahaniaeth.

Dywedodd yr Ysgrifenydd Busnes Kevin Hollinrake: "Mae'r llywodraeth wedi penderfynu y dylai postfeistri, a gafodd eu euogfarnau wedi eu gwyrdroi ar sail tystiolaeth Horizon, gael y cyfle i dderbyn cynnig o swm penodol fel setliad llawn a therfynol.

"£600,000 fyddai'r swm yma. Dim hyd at y swm yma, ond swm terfynol o £600,000."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.