Newyddion S4C

Dyblu cyllideb gwasanaeth S4C sy’n creu fideos cerddorol Cymraeg

19/09/2023
LWP X PYST

Bydd cronfa ariannol gwasanaeth Lŵp ar S4C i greu fideos cerddorol Cymraeg yn dyblu er mwyn gallu ariannu 20 fideo newydd dros y flwyddyn nesaf. 

Cafodd y gronfa ei chyhoeddi y llynedd fel ffordd o gynnig cyfle i artistiaid a chyfarwyddwyr newydd i greu eu fideo cyntaf i hyrwyddo'u traciau. 

Bwriad y gronfa dros y flwyddyn nesaf fydd i gydweithio â cherddorion a chyfarwyddwr na fyddai'n cael y cyfle i greu fideos Cymraeg.

Mae’r cynllun yn brosiect ar y cyd rhwng y sianel a chwmni PYST.

Dywedodd Prif Weithredwr PYST Alun Llwyd: "Dangosodd llwyddiant y flwyddyn gyntaf bod gwir angen am gyfleon ariannu ar gyfer fideos annibynnol. Mae hyn yn enwedig o wir ar gyfer y cerddorion a’r cyfarwyddwyr hynny na fyddai o bosib yn cael y cyfle, ac yn sicr fyddai’n methu gwireddu eu gweledigaeth heb gymorth.

"Mae amrywiaeth yr artistiaid a chyfarwyddwyr yn y rownd gyntaf yn tanlinellu yr awydd sydd yn bodoli i ymgysylltu â chreu drwy gyfrwng y Gymraeg."

'Cyfle gwych'

Ychwanegodd Comisiynydd Adloniant S4C Elen Rhys: "Mae’n wych gallu cefnogi cerddorion a chyfarwyddwyr Cymru er mwyn rhoi platfform i arddangos eu talentau. Dwi mor falch fod y gronfa yn tyfu ac yn rhoi rhagor o gyfleon i ni gael gweld mwy o fideos cerddorol Cymraeg.

"Mae hwn yn gyfle gwych ac fe fyddwn ni yn galw ar unrhyw un sydd a diddordeb i wneud cais."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.