Busnesau yng Ngheredigion yn parhau i deimlo effaith COVID-19
Mae busnesau yng Ngheredigion yn parhau i deimlo effeithiau'r pandemig COVID-19 yn ôl academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Fe wnaeth ymchwilwyr yn Ysgol Fusnes Aberystwyth lansio dau arolwg ar-lein i astudio effeithiau cyfyngiadau'r pandemig ar aelwydydd a busnesau yng Ngheredigion.
Cafodd yr adroddiad cyntaf sef Effaith Economaidd Pandemig COVID-19 ar Fusnesau Ceredigion a'r Hunangyflogedig ei seilio ar brofiadau 77 o fusnesau ac unigolion.
Nododd 92% o fusnesau yn yr astudiaeth eu bod wedi wynebu anawsterau, megis gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid a refeniw.
Dywed awduron yr astudiaeth hefyd nad yw "llawer o fusnesau wedi dychwelyd i normal o hyd".
Testun yr ail adroddiad oedd 'Effaith Economaidd-gymdeithasol Pandemig COVID-19 ar Aelwydydd Sir Ceredigion' ac roedd yn adlewyrchu 246 o brofiadau aelwydydd wrth ymgyfarwyddo â'r cyfnodau clo a'r cyfyngiadau amrywiol.
Fe wnaeth 80% o'r ymatebwyr nodi eu bod wedi newid eu "harferion gwario yn bennaf ar fwyd, biliau gwasanaethau a darpariaeth rhyngrwyd."
Nododd 55% eu bod yn teimlo wedi eu hynysu gyda 33% yn dweud eu bod wedi profi anawsterau iechyd meddwl.
Dywedodd Dr Aloysius Igboekwu: "Er bod yr effeithiau tymor byr yn sylweddol, megis yr amharu ar gadwyni cyflenwi a gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid, mae tystiolaeth o’r ymatebion i’r arolwg yn awgrymu y dylai mynd i'r afael â'r effeithiau COVID hir sy’n parhau ar fusnesau fod yn flaenoriaeth i lunwyr polisi.
"Byddai darparu gwell mynediad at seilwaith digidol ar draws y sir wedi bod o fudd i aelwydydd a busnesau yn ystod y pandemig."
Ychwanegodd: "O ran effaith y pandemig ar aelwydydd Ceredigion, dylai llunwyr polisi ystyried yr effeithiau gafodd y cyfyngiadau a'r cyfnodau clo ar les, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol, y boblogaeth."