Newyddion S4C

Gostyngiad mewn cyfraddau TB dros y ddegawd ddiwethaf yng Nghymru

19/09/2023
TB / NIAD C.C.

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad mewn cyfraddau o’r haint diciâu (TB) dros y ddegawd ddiwethaf yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r cyfraddau wedi gostwng o 4.6 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth yn 2013 i 2.8 achos i bob 100,000 yn 2021. 

Fe gafodd 90 o achosion newydd eu cofnodi yn 2021, ac mae'r wlad yn parhau i fod o fewn diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o wlad â chyfradd isel, sef unrhyw ffigwr sydd yn llai na 10 achos i bob 100,000 o bobl yn flynyddol. 

Mae’r diciâu yn gyflwr sydd yn effeithio ar yr ysgyfaint, ac mae'n cynnwys symptomau megis peswch parhaus gyda mwcws neu waed ynddo, blinder, tymheredd uchel neu chwysu yn y nos.

Gall person gael y diciâu heb brofi unrhyw symptomau weithiau hefyd. 

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, y diciâu yw'r 13eg prif achos o farwolaeth ar draws y byd a'r ail brif gyflwr sy'n lladd ar ôl Covid-19. 

Mae'r Cenhedloedd Unedig eisoes wedi datgan eu bwriad i roi terfyn ar yr epidemig diciâu yn rhyngwladol erbyn 2030. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae modd trin y diciâu, a hynny drwy gymryd gwrthfiotigau bob dydd am bedwar i chwe mis. 

Dywedodd Epidemiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Athro Daniel Thomas: "Er bod Cymru yn parhau i fod yn wlad mynychder isel ar gyfer TB, ac rydym wedi gweld gostyngiad cyson mewn achosion dros y degawd diwethaf, dylai ymdrechion barhau i gyflawni nodau Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu'r clefyd fel bygythiad iechyd cyhoeddus.

"Er y gall TB effeithio ar unrhyw un, mae'r achosion a nodir yng Nghymru yn aml yn ein poblogaethau mwyaf agored i niwed, felly mae mynd i'r afael â'r mater yn gyfle i leihau anghydraddoldebau iechyd cyffredinol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.