Newyddion S4C

Arbenigwr diogelwch menywod yn dweud iddi gael ei haflonyddu’n rhywiol wrth wylio gêm bêl-droed

18/09/2023
Johanna Robinson

Mae arbenigwr ar ddiogelwch menywod wedi dweud bod “epidemig” o drais yn erbyn menywod, a hynny ar ôl iddi gael ei haflonyddu’n rhywiol wrth gefnogi thîm pêl-droed nos Sadwrn. 

Roedd Johanna Robinson, 51 oed, yn cefnogi ei thîm, CPD Dinas Caerdydd yn erbyn Abertawe nos Sadwrn pan honnodd i gael ei haflonyddu’n rhywiol gan gefnogwr pêl-droed arall yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 

Mae Ms Robinson yn galw ar sawl sefydliad chwaraeon i weithredu er mwyn diogelu menywod rhag dioddef profiadau “creulon” a “diflas” o’r fath yn y dyfodol. 

Yn Gynghorydd Cenedlaethol Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fe benderfynodd Ms Robinson fynd i’r gêm ar ei phen ei hun wedi iddi werthu ei thocyn gwreiddiol i ffrind ei mab er mwyn iddynt gael mynd gyda'i gilydd. 

Ond wedi iddi fynychu’r gêm, fe ddywedodd ei bod wedi cael ei thargedu gan ddyn oedd yn eistedd yn agos iddi.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ms Robinson: “Fe ddechreuodd yr aflonyddu bron a bod ar unwaith. Roedd y dyn yn fy nghyffwrdd i ar fy ysgwydd ac yn trio siarad â mi pan nad o’n i eisiau. 

“Daeth y cyffwrdd yn fwyfwy corfforol. I ddechrau roedd e’n defnyddio un llaw, yna roedd e’n fy nghyffwrdd gyda’r ddwy law, ac roedd yn gafael arnai’n dynnach. 

“Yna fe ddechreuodd i gyffwrdd a fy mreichiau ac o gwmpas fy nghanol. Doedd e ddim yn ‘neud hyn i unrhyw un arall, jyst fi,” meddai. 

Mae CPD Dinas Caerdydd wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi cysylltu â Ms Robinson ac yn ymchwilio i'r digwyddiad, a'u bod yn cynnwys yr heddlu os yw hynny'n briodol.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb y dylai unrhyw gefnogwr sy'n teimlo dan fygythiad gan ymddygiad eraill, gysylltu â'r clwb cyn gynted â phosib a bod modd gwneud hynny drwy linell gymorth benodol.

‘Mae hyfforddiant yn angenrheidiol’

Dywedodd Ms Robinson ei bod hi’n ymwybodol y byddai hi’n agored i fwy o niwed fel dynes ar ei phen ei hun, ond nad yw’r mesurau sydd mewn lle yn ddigon da i amddiffyn menywod rhag cael eu haflonyddu, neu rhag profi anghyfforddusrwydd pellach.

Ychwanegodd Ms Robinson: “Oherwydd fy swydd i, o’n i’n ddigon hyderus i ddweud wrtho fo i beidio â fy nghyffwrdd, roedd e wedi drysu ac yn edrych yn flin. Ond hyd yn oed gyda fy rôl i, o’n i’n teimlo’n ansicr ac yn nerfus. 

Fe aeth Ms Robinson at stiward er mwyn derbyn cymorth gan nad oedd hi’n teimlo’n ddiogel yn aros yn agos i’r dyn.

Dywedodd Ms Robinson fod y stiward yn gefnogol i'w phryderon, ac fe gafodd symud i lawr i ran arall o'r stadiwm – ond hynny ddim ond ar ôl gofyn am gael gwneud.

Ychwanegodd: “Dylai’r stiwardiaid gael eu hyfforddi i weithredu ar unwaith. Dylen nhw wedi gofyn i’r dyn i adael, ‘dyw e ddim fy nghyfrifoldeb i orfod gofyn iddyn nhw.”

“Mae angen i fenywod deimlo nad oes rhaid iddyn nhw sefyll lan dros eu hunan a bod digon o fesurau mewn grym i’w hamddiffyn. 

“Ac os ydyn nhw’n gwrthwynebu ymosodiad neu aflonyddwch, mae angen iddyn nhw gael eu cefnogi."

Er bod Ms Robinson yn teimlo nad oedd y digwyddiad yma mor ddifrifol a gallaf e wedi bod, mae’n annog pobl i gymryd o’i difrif. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.