Criwiau tân o Gymru yn rhannu fideo o achub asyn o rwbel Moroco
Criwiau tân o Gymru yn rhannu fideo o achub asyn o rwbel Moroco
Mae aelodau gwasanaethau tân ac achub Cymru wedi rhannu fideo o asyn yn cael ei achub o rwbel adeilad ym Moroco yn dilyn y daeargryn yno.
Mae pedwar aelod o wasanaeth tan y canolbarth a gorllewin wedi ymuno â dau aelod o wasanaeth y de er mwyn cynorthwyo yn yr ymdrechion achub yno, a hynny yn sgil daeargryn sydd bellach wedi lladd bron i 3,000 o bobl.
Mae dros 5,000 o bobl hefyd wedi eu hanafu hyd yma.
Wrth siarad ym Moroco'r wythnos diwethaf, dywedodd Pennaeth Rhanbarth y De, Steven Davies: "Rydyn ni wedi dod ar draws amodau heriol iawn, yn ogystal â gorfod teithio’n bell.
"Ar ôl cyfarfod â’r tîm lleol, rydyn ni’n teithio dwy neu dair awr i ffwrdd i bentref anghysbell, gan wthio trwy unrhyw rwystrau ar hyd y ffordd i weld a ydyn ni’n gallu hwyluso achub.
"Byddwn yn parhau â’n gwaith chwilio ac achub nes bydd yr awdurdodau lleol yn barnu bod y cyfnod achub ar ben. Ar hyn o bryd, ein blaenoriaeth yw ceisio dod o hyd i fywyd y gellir ei achub."
Cynorthwyo
Mae'r achubwyr yn gwasanaethu ar ran Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU, a rheini sy'n cael eu gweld yn tynnu’r asyn yn fyw o’r rwbel.
Mae 62 o swyddogion yn aelodau o'r tîm achub ac yn cynorthwyo yn yr ymdrechion i achub pobl.
Dyma'r trydydd tro yn 2023 i swyddogion tân o'r de a'r canolbarth a'r gorllewin gael eu hanfon i achub pobl wedi trychineb. Fis Chwefror fe fu swyddogion yn cynorthwyo yn Nhwrci wedi daeargryn yno. Ym mis Mawrth, fe fu aelodau yn achub pobl wedi seiclon ym Malawi.
Y Swyddfa Dramor ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd wedi anfon y diffoddwyr tân i'r wlad.