Cymru sydd wedi gweld y nifer fwyaf o dafarndai’n cau eleni
Cymru sydd wedi gweld y nifer fwyaf o dafarndai’n cau eleni o holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU, yn ôl ffigyrau newydd.
Fe wnaeth 52 o dafarndai gau yng Nghymru yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, gyda Llundain a gogledd orllewin Lloegr yn gydradd ail ar 46 yr un.
Mae ffigyrau swyddogol Llywodraeth y DU a gasglwyd gan arbenigwyr eiddo Altus Group yn dangos bod 230 o dafarndai sydd wedi cau rhwng mis Ebrill a Mehefin, cynnydd o 50% ar y 153 a gaeodd rhwng mis Ionawr a Mawrth.
Yr argyfwng costau byw sy'n cael y bai am y cynnydd, wrth i chwyddiant godi prisiau diodydd, bwyd a gwasgu incwm gwario cwsmeriaid.
'Lleddfu’r pwysau'
Mae'r ffigyrau yn golygu bod dros ddau dafarn wedi cael eu cau pob diwrnod yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.
Fe gafodd cyfanswm o 383 o dafarndai eu dymchwel neu’u trosi yn ystod yr un cyfnod.
Fe ddaw hynny wedi i 386 o dafarndai yn unig gael eu cau yn 2022 yn ei chyfanrwydd.
Mae llywydd treth eiddo Altus Group, Alex Probyn, wedi galw ar y Canghellor Jeremy Miles i weithredu’n fuan er mwyn lleddfu’r pwysau ariannol sydd ar dafarndai'r wlad.
Dywedodd: “Gyda chostau ynni lan 80% blwyddyn ar flwyddyn – yn ogystal â chwyddiant uchel a chyfraddau llog uchel, y peth olaf mae tafarndai angen yw cynnydd mewn ardrethi busnes o £12,385 y flwyddyn nesaf.”
Llun: Johnny Green/PA Wire.