Byddai Tata Steel 'wedi cau heb gymorth' medd Ysgrifennydd Cymru
Mae'n debygol y byddai Tata Steel wedi cau y gwaith dur ym Mhort Talbot a thynnu allan o’r DU oni bai fod Llywodraeth y DU wedi camu i’r adwy, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Cyhoeddodd y llywodraeth gytundeb gwerth £500 miliwn ddydd Gwener mewn ymdrech i ddatgarboneiddio safle gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Ond dywedodd yr adran fusnes mai dim ond 5,000 o'r 8,000 o swyddi ar draws y DU y byddai'r cytundeb yn gallu ei achub.
Dywedodd David TC Davies ei bod yn "ofnadwy o drist" na ellid arbed pob swydd ac y byddai hyd at £100m o gyllid yn helpu gweithwyr fyddai'n cael eu heffeithio.
'Arbed swyddi'
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd Mr Davies: “Fe wnaethon ni bopeth o fewn ein gallu i arbed swyddi ac i wneud yn siŵr bod y dur yn parhau i gael ei wneud, ond dydw i ddim am anwybyddu’r ffaith bod hyn yn digwydd ac ei fod yn newyddion ofnadwy.
“Ar hyn o bryd mae Tata yn colli dros filiwn o bunnoedd y dydd yn y safle a does yr un cwmni byth yn mynd i dderbyn colledion fel hyn,” meddai.
Yn ôl Mr Davies, ar ôl i’r llywodraeth fod yn ymwybodol bod Tata Steel yn bwriadu cau ym Mhort Talbot, fe wnaeth trafodaethau ddechrau yn syth.
Ddydd Gwener, rhybuddiodd Tata Steel y byddai yna "gyfnod pontio gan gynnwys ailstrwythuro" yn y gwaith dur.
Ffwrneisi newydd
Mae disgwyl i’r ffwrneisi newydd gwerth £1.25 biliwn ym Mhort Talbot fod yn weithredol o fewn tair blynedd ar ôl derbyn caniatâd rheoleiddio a chynllunio.
“Mae Tata Steel UK yn cyflogi dros 8,000 o bobl, gan gynnwys ym Mhort Talbot, a byddai eu swyddi dan fygythiad difrifol heb fuddsoddiad sylweddol i warantu eu dyfodol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y DU.
“Diolch i ymyrraeth Llywodraeth y DU, mae disgwyl y bydd gan y cynnig a gyhoeddwyd heddiw y potensial i ddiogelu dros 5,000 o swyddi ar draws y DU.”