Buddugoliaeth i Gymru yn erbyn Portiwgal yng Nghwpan y Byd
Fe gafodd Cymru fuddugoliaeth o 28-8 yn erbyn Portiwgal yn Nice yng Nghwpan y Byd ddydd Sadwrn.
Fe sgoriodd Gymru bedwar o geisiau yn y gêm gan ennill un pwynt bonws, ond digon di-fflach oedd y perfformiad ar y cyfan.
Bu’n rhaid i Gymru, oedd mewn du, wneud newid cyn y gêm gyda’r blaenasgellwr Tommy Reffell yn tynnu nôl a Jac Morgan yn cymryd ei le.
Roedd yn achlysur mawr i’r mewnwr Tomos Williams wrth iddo ennill ei 50fed cap dros ei wlad.
Portiwgal gafodd y cyfle cyntaf i fynd ar y blaen ond fe wnaeth ymgais y mewnwr Samuel Marquéz daro’r postyn ar ôl i ganolwr Cymru Johnny Williams gael ei ddal yn camsefyll.
Roedd y chwarae yn agored iawn yn y munudau cyntaf gyda Phortiwgal yn cael sawl cyfle i ymosod.
Fe ddaeth cais cyntaf i Gymru ar ôl wyth munud wrth i’r asgellwr Louis Rees-Zammit gasglu ei gic yn gelfydd i sgorio gyda’r cefnwr Leigh Halfpenny yn trosi o'r ystlys.
Fe gafodd Portiwgal ddigon o feddiant gyda’u holwyr yn dangos digon o fenter a doniau yn y chwarae agored i godi pryder ar Gymru.
Nid oedd popeth yn mynd o blaid Cymru ac fe dderbyniodd y canolwr Johnny Williams gerdyn melyn am drafod y bêl ar y llawr ar ôl 25 munud.
Gyda'r chwarae llac o fudd i Portiwgal roedd Cymru ar y droed ôl ar sawl achlysur.
Daeth pwyntiau haeddiannol cynta'r gêm i Bortiwgal o gic gosb gan y mewnwr Marquéz ar ôl i'r canolwr Mason Grady gael ei gosbi am dacl uchel. Cymru 7-3 Portiwgal.
Fe groesodd y capten a'r bachwr Dewi Lake y llinell gais yn eiliadau olaf yr hanner wrth i Bortiwgal gael eu cosbi yn gyson. Fe drosodd Halfpenny i wneud y sgôr yn Cymru 14-3 Portwigal.
Roedd Cymru yn fwy balch na Phortiwgal i glywed y chwiban am yr egwyl yn dilyn hanner cyntaf heb fawr o strwythur i'w chwarae.
Chwarae blêr
Nid oedd munudau cyntaf yr ail hanner lawer yn well wrth i Gymru golli tair lein a chwarae blêr yn ildio rhagor o feddiant i Bortiwgal.
Fe ddaeth trydydd cais Cymru ar ôl 55 munud gan Jac Morgan yn hyrddio drosodd a gyda Halfpenny yn ychwanegu'r trosiad roedd mantais Cymru wedi ymestyn i 21-3.
Fe ddaeth bloedd ucha’r prynhawn ar ôl 62 munud pan groesodd Portiwgal am gais haeddiannol o lein gyda’r blaenasgellwr Nicola Martins yn twyllo blaenwyr Cymru.
Cymru 21-8 Portiwgal.
Fe groesodd yr eilydd Gareth Davies am gais i Gymru ar ôl 74 munud ac er i Sam Costelow drosi fe ddiddymwyd y cais am rwystro yn gynharach yn y symudiad.
Yna fe aeth Portiwgal i lawr i 14 dyn pan gafodd yr asgellwr Vincente Pinto gerdyn melyn am chwarae peryglus.
Fe groesodd Taulupe Faletau am bedwerydd cais i Gymru a phwynt bonws gyda Costelow yn trosi yn eilad olaf o'r chwarae.
Yn sicr fe fydd yn rhaid i Gymru godi eu gêm yn erbyn Awstralia y penwythnos nesaf.
Y sgôr terfynol: Cymru 28-8 Portiwgal.