Newyddion S4C

Dathlu Owain Glyndŵr a'i fam Elen mewn digwyddiad arbennig

16/09/2023
S4C

Mae dydd Sadwrn yn ddiwrnod swyddogol Owian Glyndŵr, ac mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wald i’w ddathlu.

Mae’r diwrnod hefyd yn nodi dechrau gwrthryfel Owain Glyndŵr yn 1400.

Cafodd Owain Glyndŵr ei goroni yn dywysog Cymru yn 1404  mewn seremoni ym Machynlleth, hynny tra bod ei wrthryfel yn erbyn coron Lloegr yn ei anterth.

Ond eleni nid Owian Glyndwr neu'r Mab Darogan yw canolbwynt y dathliadau yng  Nheredigion, ond ei fam, Elen.

Mae Ffair Elen yn cael ei chynnal yn Llandysul ddydd Sadwrn, lle bydd merched lleol yn gwisgo ac actio fel y Dywosoges Elen.

Bydd y merched yn mynd o stondin i stondin lle bydd sgyrsiau am Owian Glyndŵr yn cael eu cynnal.

Mae pobl adnabyddus gan gynnwys Lleuwen Steffan a Mr Phormula yn rhan o’r diwrnod celfyddydol.

Dechreuodd y prosiect yn ystod y pandemig, gyda’r bwriad o ddod â phobol ynghyd i ddysgu mwy hanes lleol.

“Mae Llandysul wastad wedi bod yn lle sy’n brwydro am bob dim, ond mae hynna’n creu egni diddorol sydd i’w ddathlu,” meddai Lleucu Meinir, un o griw PLETHU sy’n trefnu’r sioe wrth Golwg 360.

“Roedden ni’n gweld bod lle i waith creadigol oedd yn dod â phobol at ei gilydd – pob oedran, cefndir, iaith – er mwyn archwilio lle rydyn ni’n byw, be sy’n annog pobol i frwydro, archwilio’n gwreiddiau ni, defnydd iaith.”

Llun:PLETHU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.