Ansicrwydd am y dull gorau o wahardd cŵn tarw 'American XL'
Mae disgwyl i weinidogion yn San Steffan ddechrau'r gwaith o fanylu ar weithredu gwaharddiad arfaethedig y Prif Weinidog ar gŵn tarw 'American XL' yn fuan.
Ond mae cryn ansicrwydd am sut yn union y bydd y gwaharddiad hwn yn digwydd.
Dywedodd Rishi Sunak y bydd y cŵn yn cael eu gwahardd erbyn diwedd y flwyddyn mewn ymateb i gyfres o ymosodiadau.
Cafodd y penderfyniad ei gefnogi’n gyflym gan grwpiau ymgyrchu, y Blaid Lafur a’r Barwn Baker o Dorking, oedd yn gyfrifol am y Ddeddf Cŵn Peryglus dros 30 mlynedd yn ôl.
Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg bod dyn wedi marw ar ôl i ddau gi ymosod arno ddydd Iau yn Sir Stafford. y gred yw mai cŵn tarw 'American XL' oedd y ddau.
Ond mae cwestiynau yn parhau ynglŷn â sut yn union y bydd gwaharddiad yn cael ei weithredu a’i orfodi, gyda phryderon hefyd am yr her o ddiffinio’r brîd cŵn o ystyried ei natur croesfrid.
'Consensws'
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth y DU, yr Athro Christine Middlemiss mai dod i “gonsensws” ar ddiffiniad o'r brîd fyddai un o’r pethau cyntaf y byddai swyddogion yn ei wneud.
Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 ddydd Sadwrn, cadarnhaodd hefyd y byddai dull “amnest” yn golygu na fyddai’r cŵn yn cael eu difa.
“Bydd amnest. Felly bydd angen i bobl sydd â’r cŵn hyn eisoes – a rhai ohonynt wedi’u cymdeithasu’n dda, wedi’u rheoli’n dda, wedi’u hyfforddi’n dda – gofrestru a chymryd camau penodol.
“Bydd angen i'ch ci gael ei ysbaddu. Bydd angen iddo gael ei reoli pan fydd allan yn gyhoeddus ac ar dennyn a'i yswirio.
“Ond os ydych chi'n cydymffurfio â'r gweithredoedd hyn, ac mae hynny'n golygu y byddwn ni'n gwybod ble mae'r cŵn hyn, a fydd yn fantais enfawr, yna ie, yn hollol fe fyddwch chi'n gallu cadw'ch ci.”
'Diwedd y flwyddyn'
Fe ddefnyddiodd Mr Sunak fideo ar gyfryngau cymdeithasol i addo y byddai’r Llywodraeth yn “gwahardd y brîd o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus a bydd deddfau newydd mewn grym erbyn diwedd y flwyddyn.
“Mae’r cŵn yma’n beryglus, rydw i eisiau tawelu meddwl y cyhoedd y byddwn ni’n cymryd yr holl gamau angenrheidiol i gadw pobol yn ddiogel,” meddai.
Dywedodd hefyd ei fod wedi gorchymyn gweinidogion i ddod â’r heddlu ac arbenigwyr at ei gilydd i ddiffinio’r brid o gi y tu ôl i’r ymosodiadau hyn fel y gallant wedyn gael eu gwahardd.
Croesawyd y penderfyniad gan ymgyrchwyr, ond dywedodd grwpiau eraill - gan gynnwys yr RSPCA a'r Kennel Club - na fyddai gwahardd cŵn tarw 'American XL' yn atal ymosodiadau.
'Cyfnod amnest'
Daw ynghanol cwestiynau ynghylch a ellid cyflwyno “cyfnod amnest” i berchnogion, gydag awgrymiadau y byddai hyn yn gweld gwaharddiad llwyr yn dod i rym yn 2025.
Dyma’r dull a ddefnyddiwyd pan gafodd cŵn tarw 'American XL' eu gwahardd o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus yn y 1990au.
Dywedodd yr Arglwydd Baker, pensaer y Ddeddf yn ystod oes Syr John Major, y dylai cŵn gael eu “sbaddu neu eu dinistrio” unwaith y bydd y gwaharddiad wedi dod i rym, gydag unrhyw un y caniateir iddo fyw yn cael ei “sbaddu am byth”.