Newyddion S4C

Russell Brand yn gwadu 'honiadau troseddol difrifol' yn ei erbyn

16/09/2023
S4C

Mae Russell Brand wedi gwadu "honiadau troseddol difrifol" y mae'n honni y bydd papur newydd a chwmni teledu yn ei wneud yn ei erbyn.

Mewn fideo a bostiwyd ar YouTube ac X (Twitter), gwadodd y digrifwr yr honiadau a ddisgrifiodd fel rhai "hynod o ymosodol".

Dywedodd fod ei berthnasau "bob amser yn gydsyniol".

Dywedodd Mr Brand, 48 oed: "Rwyf wedi derbyn dau lythyr neu lythyr ac e-bost hynod annifyr. Un gan gwmni teledu, ac un gan bapur newydd yn rhestru trwch o ymosodiadau hynod ymosodol.

“Ond ynghanol y restr yma o ymosodiadau rhyfeddol, mae rhai honiadau difrifol iawn sydd ddim yn wir.

"Mae'r honiadau hyn yn ymwneud â'r amser pan oeddwn i'n gweithio yn y brif ffrwd, pan oeddwn yn y papurau newydd drwy'r amser, pan oeddwn mewn ffilmiau.”

Fe aeth Mr Brand ymlaen i ddweud: "Dydw i ddim eisiau mynd i mewn i hyn ymhellach oherwydd natur ddifrifol yr honiadau, ond rwy'n teimlo fy mod yn darged ymosodiad ac mae'n amlwg eu bod yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd.

“Rydym yn amlwg yn mynd i ymchwilio i'r mater hwn achos mae'n ddifrifol iawn, iawn. Yn y cyfamser, rydw i eisiau i chi aros yn agos, aros yn effro, ond yn bwysicach na dim, arhoswch yn rhydd."

Nid yw Mr Brand wedi enwi’r papur newydd a’r cwmni teledu y mae’n dweud sydd wedi gwneud yr honiadau yn ei erbyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.