Newyddion S4C

Pêl-droed: Cyffro wrth i'r Brif Adran Genero ddychwelyd

17/09/2023
Prif Adran Genero

Bydd y Brif Adran Genero, cynghrair pêl-droed merched yng Nghymru, yn dychwelyd y penwythnos hwn.

Wrecsam yw'r tîm newydd yn y gynghrair wedi iddynt guro Llansawel yn y gemau ail-gyfle ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Bydd wyth tîm yn chwarae yn y gynghrair eleni, sef Abertawe, Aberystwyth, Dinas Caerdydd, Met Caerdydd, Pontypridd, Wrecsam, Y Bari a'r Seintiau Newydd.

Wrth siarad yn lansiad y gynghrair yn Amgueddfa Sain Ffagan dywedodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod 'na gyffro mawr eleni.

"Mae na rywbeth sydd jyst yn teimlo bach yn wahanol eleni," meddai.

"Mae na mwy o frwdfrydedd, mae na mwy o 'pwy sydd mynd i ennill?' Pwy sydd mynd i gyrraedd y top four a pethe?'

"Ni'n gweld y trajectory, ni'n gweld lle mae'r gêm yn gallu mynd a 'da ni ar siwrne o mynd o amateur i professional. So ma' 'na lot o stages."

Cynyddu torfeydd

Bydd gêm agoriadol y gynghrair rhwng Wrecsam ac Abertawe yn cael ei chwarae o flaen camerâu Sgorio ddydd Sul.

Mae Abertawe, CPD Caerdydd a Wrecsam wedi ymrwymo i chwarae nifer o'u gemau yn Stadiwm Swansea.Com, Stadiwm Dinas Caerdydd a'r Stok Cae Ras eleni, ac mae Lowri Roberts yn meddwl bydd torfeydd yn cynyddu.

"Dwi'n meddwl bydd 'na dorfeydd fwy yn yr Adran Prem eleni na'r Cymru Prem, dwi'n meddwl bydd o'n rili cystadleuol."

Fe wnaeth y gêm rhwng Wrecsam a Cei Connah ddenu torf o 9,511 y tymor diwethaf.

Roedd perchnogion y clwb, Rob McElhenney a Ryan Reynolds hefyd yn bresennol.

Dyma restr o gemau agoriadol y gynghrair ddydd Sul:

Pontypridd v Y Seintiau Newydd

Aberystwyth v Y Bari

Met Caerdydd v Dinas Caerdydd

Wrecsam v Abertawe

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.