Rygbi: 'Y gwaith wedi ei wneud o'n hochr ni' medd ysgol a fydd yn canu Hen Wlad fy Nhadau
"O'n safbwynt ni, mae’r gwaith wedi ei neud fel y gwnaethon nhw ofyn i ni ei wneud."
Dyna eiriau athro cerddoriaeth Ysgol Uwchradd Nucera yn Nice, a fydd gan ddisgyblion yn canu Hen Wlad fy Nhadau cyn ail gêm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Portiwgal ddydd Sadwrn.
Mae'r Mêlée des Chœurs, neu'r Sgrym Gorawl, yn brosiect sy'n galluogi i 7,000 o blant yn Ffrainc gael y profiad bythgofiadwy o ganu anthemau cenedlaethol yr holl genhedloedd sy'n cymryd rhan cyn y 48 gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc eleni.
Fe wnaeth rhai feirniadu'r fersiwn o Hen Wlad fy Nhadau a gafodd ei chanu gan tua 250 o blant o ardal Bordeaux cyn y fuddugoliaeth yn erbyn Ffiji nos Sul diwethaf, gan ddweud nad oedd yr anthem yn cael ei chanu yr un pryd â'r chwaraewyr a'r cefnogwyr yn y stadiwm.
Mae trefnwyr Cwpan Rygbi'r Byd eisoes wedi ymddiheuro ac wedi addo y byddai fersiynau newydd o'r anthemau sy'n cael eu canu cyn y gemau y tro hwn.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Cwpan Rygbi'r Byd fod "addasiadau wedi eu gwneud i'r anthemau cenedlaethol wrth symud ymlaen.
"Mae Pwyllgor Trefnu Ffrainc 2023, World Rugby a Gweinyddiaeth Chwaraeon Ffrainc wedi cytuno gyda'r Opéra-Comique a'r timau yn rhan o'r gystadleuaeth i greu fersiynau wedi eu haddasu o'r anthemau cenedlaethol.
"Bydd y fersiynau hyn yn cadw recordiadau o leisiau'r plant tra'n cynyddu'r elfennau offerynnol."
Mae Ffrainc eisoes wedi defnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o La Marseillaise yn eu gêm yn erbyn Wrwgwai nos Iau, a dywed trefnwyr y gystadleuaeth bod disgwyl "cadarnhad terfynol gan bob tîm" erbyn bore Sadwrn.
'Amharu ar yr anthem'
Dywedodd athro cerddoriaeth Ysgol Uwchradd, Nucera Frédérick Lacroix wrth Newyddion S4C: "O’n safbwynt ni, mae’r gwaith wedi ei wneud fel y gwnaethon nhw ofyn i ni ei wneud. Efallai beth sydd wedi digwydd yma yng Nghwpan y Byd ydi’r system sain ac efallai ei fod wedi niweidio ac amharu ar yr anthem ychydig.
"Ond mae rhaid hefyd cofio’r amgylchiadau yn y stadiwm ac yn amlwg, mae yna echo."
Er bod Mr Lacroix yn hapus gyda'r fersiwn, mae hefyd yn deall pam fod rhai cefnogwyr yn anhapus.
"Ond dwi’n dalld hefyd fod yna rai cefnogwyr sy’n disgwyl bod yr anthemau yn mynd i gael eu canu mewn ffordd benodol, ond mae’n rhaid i chi gofio bod yr anthemau yma i gyd wedi cael eu derbyn, fe wnaethom ni yrru pob trefniant i undeb rygbi pob gwlad ac fe wnaethom ni ein cywiriadau er mwyn eu bod yn hapus gyda nhw ac mae hyn wedi digwydd.
"Ar y cyfan, dwi’n meddwl mai’r broblem ydi’r system sain ar y cae."
'Ffydd lawn'
Er y bydd rhai ysgolion a chorau yn defnyddio harmonïau yn yr anthemau, bydd disgyblion Ysgol Uwchradd Nucera yn canu mewn unsain, a hynny am reswm pwysig yn ôl Mr Lacroix.
"Mae gennym ni ein ffydd lawn yn yr Opéra-Comique a wnaeth drefnu’r trefniannau hyn, fe wnaethom nhw gynnig i ni wneud yr anthem gyda sawl llais gwahanol, ond yn ein coleg ni, fe wnaethom ni wneud y dewis i ganu’r anthem yn yr alaw wreiddiol oherwydd mae anthem yn rhywbeth sy’n uno ac y dylid ei chanu hi yn unsain," meddai.
"Ond, maen nhw wedi gofyn i rai ysgolion ganu’r ail a’r trydydd llais, ond roedd well gennym ni ganolbwyntio ar y brif alaw ar gyfer ein disgyblion."