Cymru v Portiwgal: Pryd mae'n dechrau, lle mae 'mlaen, a phwy yw’r ffefrynnau?
Bydd Cymru yn targedu eu hail fuddugoliaeth yng Nghwpan Rygbi’r Byd wrth iddyn nhw herio Portiwgal ddydd Sadwrn.
Ble mae’r gêm yn cael ei chwarae?
Fydd y gêm yn cael ei chwarae yn Stade de Nice, yn ninas Nice, yn ne ddwyrain Ffrainc.
Faint o'r gloch mae’r gic gyntaf?
Mae’r gic gyntaf am 16.45.
Pwy sydd yn nhîm Cymru?
Fe wnaeth Warren Gatland newid 13 o chwaraewyr o’r tîm ddechreuodd yn ystod y fuddugoliaeth dros Ffiji, gyda Louis Rees-Zammit a Taulupe Faletau yn unig yn cadw eu llefydd.
Olwyr: 15. Leigh Halfpenny, 14. Louis Rees Zammit, 13. Mason Grady, 12. Johnny Williams, 11. Rio Dyer, 10. Gareth Anscombe, 9. Tomos Williams.
Blaenwyr: 1. Nicky Smith , 2. Dewi Lake (Capten), 3. Dillon Lewis, 4. Christ Tshiunza, 5. Dafydd Jenkins, 6. Dan Lydiate, 7. Tommy Reffell, 8. Taulupe Faletau.
Eilyddion: 16. Ryan Elias, 17. Corey Domachowski, 18. Tomas Francis, 19. Adam Beard, 20. Taine Basham, 21. Gareth Davies, 22. Sam Costelow, 23. Josh Adams.
Pa mor dda yw Portiwgal?
Mae Portiwgal yn 16eg ar restr detholion y byd World Rugby – yn uwch na phedwar tîm arall sydd yng Nghwpan y Byd – Wrwgwai, Romania, Namibia a Chile.
Fe lwyddodd Portiwgal i drechu'r UDA o 46-20 yn eu gemau paratoadol fis diwethaf, cyn colli 17-30 yn erbyn ail dîm Awstralia.
Introducing Portugal's squad for their #RWC2023 opener against Wales 🇵🇹
— Rugby World Cup (@rugbyworldcup) September 14, 2023
#WALvPOR | @PortugalRugby pic.twitter.com/pjFKSniisw
Unwaith yn unig mae Os Lobos – Y Bleiddiau – wedi ymddangos mewn Cwpan y Byd, a hynny yn 2007, gan golli yn erbyn Yr Alban (56-10), Seland Newydd (108-13), Yr Eidal (31-5) a Romania (14-10).
Dyma fydd gêm agoriadol y tîm yn y gystadleuaeth eleni.
Beth mae’r arbenigwyr yn ei feddwl?
Cyn-flaenwr Cymru, Emyr Lewis:
“Fi’n gobeithio bod ni’n mynd i weld y chwaraewyr ifanc hyn yn dangos eu doniau nhw, dangos beth maen nhw’n gallu gwneud a lledu’r bêl a dod mewn a chwaraewyr fel Louis Rees-Zammit i mewn i’r gêm a Rio Dyer, just i weld beth allan nhw gynnig. Dwi’n gobeithio bydd y bartneriaeth rhwng Johnny Williams a Mason Grady yn blodeuo achos ma fe’n hollbwysig i ddyfodol rygbi Cymru.
ALLEZ LES ROUGES! 🏴
— S4C Chwaraeon 🏴 (@S4Cchwaraeon) September 15, 2023
Emyr Lewis a Mason Grady sydd yn ymuno â Lauren wrth iddynt edrych ymlaen at y gêm yn Nice yn erbyn Portiwgal. 🇵🇹
Wales are back in #RWC2023 action tomorrow but can Gatland's men take a win for granted?#AllezLesRouges | @laurenemmaj pic.twitter.com/LyIv2ke4FT
“Fi’n gweld nhw dydd Sadwrn yn cael digon o feddiant ac ma’ hynny’n hollbwysig. Mae'n rhaid i ni roi sylfaen i’r olwyr. Mae Gareth Anscombe yn faswr ac mae pwynt ‘da fe profi ar ôl ei anafiadau, a fi’n gobeithio bod nhw yn dod a Johnny Williams a Mason Grady i mewn ar onglau gwahanol, croesi’r llinell fantais, rhoi cyfle i’r blaenwyr ddod rownd y gornel ac mi fydd hi’n gêm agored.
“Ydi Cymru yn mynd i golli? Dw i ddim yn gweld ‘ny. Tro diwethaf welais i Bortiwgal yn chwarae oedd yn 1994 a chwaraeais i yn y gêm yna, felly dwi ddim yn siŵr iawn beth sydd gan Bortiwgal i’w gynnig.
“Maen nhw’n mynd i gynnig brwdfrydedd, awch, angerdd, ond dyw hwnna ddim yn mynd i fod yn ddigon i faeddu Cymru oherwydd mae 15 dyn allan gyda Chymru sydd allan i brofi pwynt i Warren Gatland. Yr unig beth fi yn gofidio am, y’n nhw’n mynd i fynd allan ‘na a chwarae fel unigolion er mwyn ceisio profi pwynt, neu odyn nhw’n mynd i berfformio fel tîm, sydd yn angenrheidiol os y’ch chi am gael buddugoliaeth swmpus?”
Cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones:
“Mae’r penwythnos hon yn rhoi cyfle i Gatland rhoi cyfle i weddill ei garfan chwarae. Maen nhw wedi gweithio mor galed drwy’r haf, ei fod yn haeddu amser ar y cae.

“Mae’n anodd cymryd gormod o’r gêm hon, ond tybed a oes gan Dafydd Jenkins hanner siawns o orfodi ei ffordd mewn i’r tîm yn erbyn Awstralia?
“Mae Dewi Lake yn chwaraewr sydd angen dangos dau beth. Yn gyntaf, ei fod wedi gwella o’i anaf, ac yn ail, fod y lein yn gweithredu’n effeithiol. Os gallai gyflawni'r rheini, fe wnawn ni weld e’n chwaraeyn erbyn Awstralia.”
Ble allwn i wylio’r gêm?
Bydd y gêm yn cael ei ddangos ar S4C am 4.00.
Pwy yw’r ffefrynnau?
Dyw Cymru heb ennill dwy gêm yn olynol ers Tachwedd 2021 – ond mae disgwyl iddyn nhw gyflawni hyn ddydd Sadwrn, gyda’r arbenigwyr a’r bwcis yn gytûn y dylai’r Cymry ennill yn gyfforddus.
Pwy arall sydd yn chwarae yng ngrŵp Cymru?
Bydd Awstralia yn herio Ffiji am 16.45 ddydd Sul.