
'Siomedig' gyda bwriad Sunak i wahardd cŵn tarw American XL
'Siomedig' gyda bwriad Sunak i wahardd cŵn tarw American XL
Mae Prif Weinidog y DU wedi cadarnhau ei fwriad i wahardd cŵn tarw 'American XL, yn dilyn cyfres o ymosodiadau treisgar diweddar.
Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Rishi Sunak ei fod yn “rhannu arswyd y genedl” wedi ymosodiadau o’r fath ac na ellid caniatáu iddynt barhau.
Roedd Mr Sunak yn ymateb i'r digwyddiad diweddaraf lle bu farw dyn ar ôl ymosodiad gan ddau gi y tu allan i eiddo yn Stonnall, Sir Stafford, brynhawn Iau.
Roedd gwaharddiad ar gŵn tarw ‘American XL eisoes yn cael ei ystyried ar ôl ymosodiad ar ferch 11 oed yn Birmingham ddydd Sadwrn, gyda lluniau wedi’u postio ar-lein o'r digwyddiad.
Mewn datganiad fideo a bostiwyd ar X, (Twitter), dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr: “Mae cŵn tarw Americanaidd XL yn berygl i’n cymunedau, yn enwedig ein plant.”
It’s clear the American XL Bully dog is a danger to our communities.
— Rishi Sunak (@RishiSunak) September 15, 2023
I’ve ordered urgent work to define and ban this breed so we can end these violent attacks and keep people safe. pic.twitter.com/Qlxwme2UPQ
Mae Chris Pritchard o Lanrug, yn berchen ar gi tarw American XL ac mae wedi ei siomi gyda bwriad y llywodraeth.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Dwi ddim yn hapus am y beth..Dwi'n hollol disappointed yn decision y Prime Minister i neud y penderfyniad yma.
“Fel dwi wedi dweud ar hyd yr amser, mae o lawr i’r bobl sydd bia’r cŵn a sut ma’ nhw yn trainio ac yn trin nhw.”

Mae Mr Pritchard yn meddwl mai nid dyma’r ffordd orau i fyndi’r afael gydag ymosodiadau o’r fath.
“Dwi’n meddwl na’r ffordd i ddelio efo unrhyw broblem sy’n codi o gŵn fel yma ydi fwy o gosb i bobl sydd ddim yn rheoli cŵn nhw, a ddim cosbi cŵn sydd heb achosi ddim harm i neb.
“Dwi'n perthyn i dipyn o grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol sydd efo pobl sydd efo’r cŵn yma, a dydy’r XL Bully community ddim wedi cymryd at y newyddion yma’n dda, a fydda ni yn gwneud bob dim o fewn ein pŵer i stopio’r Prime Minister efo hyn, a chadw ein cŵn yn saff.”

'Croesawu'
Ond mae grwpiau ymgyrchu wedi croesawu bwriad y llywodraeth i wahardd y brid.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Bully Watch, yr Ymgyrch dros Reoleiddio Cŵn Peryglus ar Sail Tystiolaeth (CEBRDD) a Protect Our Pets fod y brîd yn “fygythiad clir a phresennol i iechyd y cyhoedd”.
Dywedodd Lawrence Newport, o CEBRDD: "Mae cŵn ymladd yn ymladd.
“Mae mewnforio'r bwli Americanaidd, math pitbull hynod fewnfrid, wedi arwain at farwolaethau ac ymosodiadau ysgubol. Bydd y gwaharddiad hwn o'r diwedd yn caniatáu i'r llywodraeth a'r heddlu weithredu, cyn i blentyn neu anifail anwes arall gael ei rwygo'n ddarnau."
Mae Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod am wahardd cŵn y brid American Bully XL erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog: "Rwy’n croesawu newyddion heddiw bod camau’n cael eu cymryd o’r diwedd i ddelio â chŵn y brid American Bully XL yn dilyn nifer o ymosodiadau a marwolaethau. Rwyf wedi sgrifennu at Lywodraeth y DU dros nifer o flynyddoedd i ofyn am ymateb i’r achosion gyda chŵn y brid American Bully XL, ac i feddwl a oedd modd gwella Deddf Cŵn Peryglus 1991. Dim ond yr wythnos yma mi godais y mater unwaith eto hefo Ysgrifennydd Gwladol Defra ac rwy’n edrych ymlaen at weld manylion y mesurau
“Bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gwaharddiad ddim yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd, lles cŵn a’r pwysau ar y sector lles anifeiliaid ehangach.
“Byddwn yn parhau i gadw golwg ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i leihau’r peryglon y mae perchenogion anghyfrifol yn eu hachosi ond gan hyrwyddo manteision cŵn i gymdeithas.”