
Terfynau cyflymder 20mya yn dod i rym yng Nghymru
Terfynau cyflymder 20mya yn dod i rym yng Nghymru
Ers hanner nos, mae terfynau cyflymder 20 milltir yr awr wedi dod i rym ar ffyrdd penodol ar hyd a lled Cymru.
Mae'r terfyn cyflymder newydd wedi dod i rym ar ffyrdd 'cyfyngedig' drwy'r wlad - sef ffyrdd sydd gan amlaf wedi eu lleoli mewn ardaloedd preswyl gydag adeiladau a lle mae ceir a phobl i'w gweld.
Yn amlach na pheidio mae goleuadau stryd ar ffyrdd cyfyngedig, heb fod yn fwy na 200 lath ar wahân. Mae hyn yn golygu y bydd y newid yn dod i rym i'r mwyafrif o ardaloedd trefol a dinesig yng Nghymru.
Mae cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20mya wedi costio £32m i'r llywodraeth - ac mae'r gost, ac oedi posib i deithwyr wrth fynd ar eu taith wedi cythruddo gwrthwynebwyr y cynllun, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig.

Wythnos diwethaf fe wrthododd y Prif Weinidog Mark Drakeford dderbyn awgrym arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y byddai'r newid yn effeithio ar amseroedd ymateb y gwasanaethau brys yng Nghymru:
“Mae ein holl wasanaethau golau glas wedi arfer yng Nghymru i ymdrin â chyfyngiadau 20mya, 30mya, 40mya, 50, 60, 70mya ar wahanol ffyrdd mewn gwahanol gyd-destunau.
“Maen nhw'n rheoli hynny'n berffaith lwyddiannus; byddan nhw'n rheoli hyn yn union yr un ffordd.”
Y llywodraeth fydd yn talu am y cynllun, gan ddosbarthu arian i'r cynghorau sir i weithredu'r newidiadau.
Fe fydd yn cael ei blismona fel unrhyw derfyn cyflymder arall gan yr heddlu, ond mae'r llywodraeth wedi dweud mai annog pobl i ddilyn y drefn newydd yn hytrach na'u gorfodi fydd y neges ar y dechrau.
Arwain y ffordd?
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r newid, ac mae'r llywodraeth yn dadlau y bydd y cam yn achub bywydau ac yn well i'r amgylchedd yn y pen draw.
Gobaith gweinidogion ym Mae Caerdydd yw y bydd y newid hefyd yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio mewn cymunedau, gan helpu i wella iechyd a lles pobl.
Yn ôl y llywodraeth, mae ymchwil yn dangos fod teithio 1mya yn arafach wrth yrru mewn ardaloedd trefol, yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau o 6% ar gyfartaledd.
Fe fydd Rheolau'r Ffordd Fawr yn cael eu diweddaru o ddydd Sul ymlaen i adlewyrchu'r newid sydd wedi dod i rym yma yng Nghymru.
Gwrthwynebiad
Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi dod o gyfeiriad y Ceidwadwyr a rhai busnesau i'r newid trefyn cyflymder. Mae miloedd o bobl wedi arwyddo deiseb hefyd yn erbyn y datblygiad.
Mewn rhai siroedd mae arwyddion ffyrdd wedi eu difrodi gan unigolion sydd yn gwrthwynebu'r newid.
Ddydd Iau fe gyhuddodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Penny Mordaunt y Blaid Lafur yng Nghymru o "gosbi" gyrrwyr wrth gyflwyno'r terfynau cyflymder, gan ei ddisgrifio fel cam "hollol wallgof".

Ddydd Mercher diwethaf fe fethodd y Ceidwadwyr Cymreig ag ennill pleidlais yn y Senedd i wyrdroi'r penderfyniad i gyflwyno'r newidiadau ar ffyrdd Cymru.
Mae aelodau'r blaid yng Nghymru wedi dadlau fod y newid yn amhosib i'w weithredu ac y byddai'n costio £4.5bn i economi Cymru - rhywbeth y mae'r llywodraeth yn ei wadu.
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig hefyd na fyddai'r newid yn gwella'r amgylchedd na'n gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel.
Mae Llafur Cymru wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr Cymreig o ledaenu "honiadau ffug" am effaith y terfynau.
Mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r newid ar ein ffyrdd, gan ddweud y bydd yn llesol i iechyd pobl yn y pen draw.
Cefnogaeth i'r cynllun
Cymysg fu ymateb y cyhoedd cyn i'r newid ddod i rym, ond mae wedi ei groesawu gan nifer o gyrff a sefydliadau. Mae 15 o gyrff gwahanol gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru, Brake, Cyfoeth Naturiol Cymru, Action for Children, Sustrans a Chwaraeon Cymru wedi llofnodi llythyr agored yn diolch i'r llywodraeth am gyflwyno'r newidiadau.
Dywed y cyrff eu bod yn "cefnogi menter Llywodraeth Cymru i wneud 20mya y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ardaloedd preswyl ac adeiledig o heddiw, 17 Medi, ymlaen.
"Rydym yn canmol y terfyn 20mya fel y cyfraniad enfawr tuag at strydoedd tecach a mwy o gymunedau gwerth byw ynddynt i bawb yng Nghymru.
"Nid budd o ran diogelwch ar y ffyrdd yn unig ydyw. Mae hefyd yn cefnogi nodau iechyd, hinsawdd a chymdeithasol ehangach fel helpu’r rheini sy’n agored i niwed i symud o gwmpas, gwella cysylltiad cymdeithasol, lleihau llygredd aer a sŵn, a mwy."
Cynllun peilot
Cafodd wyth cymuned eu dewis fel cynllun peilot cam cyntaf i gyflwyno terfynau cyflymder 20mya yn ystod 2021/22, sef:
- Llandudoch, Sir Benfro
- Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
- Sant-y-brid, Bro Morgannwg
- Canol Gogledd Caerdydd
- Pentref Cil-ffriw, Castell-Nedd Port Talbot
- Y Fenni, Sir Fynwy
- Glan Hafren, Sir Fynwy
- Bwcle, Sir y Fflint
Yn ôl gwaith ymchwil y llywodraeth yn dilyn y cynllun peilot, fe gynyddodd nifer y bobl oedd yn cadw at y terfyn 20mya o 45% i 64% rhwng dechrau a diwedd y cynllun peilot.
Prif Lun: Cyngor Ynys Môn