Newyddion S4C

Cyhuddo aelodau o deulu Sara Sharif o lofruddiaeth

15/09/2023
Sara Sharif

Mae tad, llysfam ac ewythr Sara Sharif wedi’u cyhuddo o lofruddio ar ôl dychwelyd i’r DU o Bacistan.

Fe fydd y tri yn wynebu’r llys ddydd Gwener wedi iddynt gael eu cyhuddo o lofruddio y ferch 10 oed a gafodd ei darganfod yn farw yn ei thŷ yn Woking ar Awst 10.

Dywedodd Heddlu Surrey fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhuddo Urfan Sharif, 41, yn ogystal a'i bartner, Beinash Batool, 29, a brawd Urfan, Faisal Malik, 28.

Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Mae disgwyl iddynt ymddangos yn Llys Ynadon Guildford.

Anafiadau

Roedd y tri wedi hedfan i Dubai o faes awyr yn Sialkot ym Mhacistan yn gynnar fore Mercher.

Glaniodd yr awyren yn Llundain ychydig cyn 19:30 nos Fercher, bum wythnos ar ôl i dad, llysfam ac ewythr Sara, adael y DU.

Fe wnaeth archwiliad post-mortem ddarganfod bod Sara Sharif wedi dioddef nifer fawr o anafiadau.

Mae ei mam, Olga Sharif, wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn cael ei chefnogi gan swyddogion, meddai Heddlu Surrey.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.