Ffrainc i groesawu twristiaid o'r DU sydd wedi eu brechu'n llawn

Bydd twristiaid o Brydain sydd wedi eu brechu'n llawn yn cael teithio i Ffrainc, ond bydd rhaid dangos prawf negyddol am Covid-19.
O dan y rheolau newydd, ni fydd angen i blant gael brechlyn Covid-19, ond bydd rhaid iddynt gael prawf negyddol cyn cael mynediad i'r wlad.
Bydd modd defnyddio ap y GIG fel tystiolaeth o statws frechu.
Bydd rhaid i deithwyr o'r DU sydd ond wedi cael un dos, neu sydd heb eu brechu o gwbl, hynanynysu am saith diwrnod ar ôl cyrraedd, darparu canlyniad negyddol am Covid-19 a bod â "rheswm cymhellol" dros ymweld, meddai Sky News.
Er hyn, mae Ffrainc yn parhau i fod ar restr deithio oren y DU, sy'n golygu bod rhaid i Brydeinwyr sy'n dychwelyd o'r wlad, waeth beth fo'u statws brechu, hunanynysu gartref am 10 diwrnod.
Darllenwch y stori'n llawn yma.