Christopher Kapessa: Cynnal cwest i farwolaeth bachgen fu farw mewn afon yn Rhondda Cynon Taf
Bydd cwest yn cael ei gynnal ym mis Ionawr i farwolaeth bachgen ifanc wnaeth foddi mewn afon yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Christopher Kapessa, oedd yn 13 oed, ym mis Gorffennaf 2019. Mae honiadau iddo gael ei wthio i Afon Cynon, ger Fernhill, gan fachgen arall.
Ni chafodd y bachgen, oedd yn 14 oed ar y pryd, ei erlyn. Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn 2020 nad oedd ei erlyniad er budd y cyhoedd.
Ond bydd cwest yn cael ei gynnal i geisio darganfod beth yn hollol ddigwyddodd i Christopher. Yn dilyn gwrandawiad ym Mhontypridd ddydd Iau, dywedodd y crwner cynorthwyol David Regan y byddai’r cwest yn cychwyn ar 8 Ionawr 2024, a bod disgwyl iddo bara am 10 ddiwrnod.
Ychwanegodd y bydd cwest rhagarweiniol pellach yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni, ar 9 Tachwedd.
Y llynedd methodd ymdrech gan fam Christopher, Alina Joseph, i herio’r penderfyniad i beidio erlyn y bachgen oedd dan amheuaeth o'i wthio i'r afon.