Gwyddonwyr Cymru yn datblygu prawf i ganfod canser yr ysgyfaint gyda 'chywirdeb o 90%'
Gallai canser yr ysgyfaint cael ei ganfod yn gynharach gan brawf newydd sy’n cael ei ddatblygu gan wyddonwyr yng Nghymru.
Yn ôl ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth, gallai’r prawf canfod canser yr ysgyfaint gyda chywirdeb o hyd at 90%.
Fe fydd y prawf yn gallu adnabod biofarcwyr canser neu gemegau bach sy’n bresennol yn wrin unigolion, a hynny cyn i symptomau “clinigol” fod yn amlwg.
Dywedodd yr Athro Luis Mur o Brifysgol Aberystwyth ei fod yn gobeithio y byddai’r profion ar gael mewn cartrefi a meddygfeydd ledled y wlad gan sicrhau bod y canser yn cael ei ganfod llawer cynt nag ar hyn o bryd..
“Mae canser yr ysgyfaint yn cael effaith ddinistriol ar gynifer o bobl a’u hanwyliaid," meddai.
“Gobeithiwn y gall y cydweithio pwysig hwn gymhwyso’r ymchwil sy’n arwain y byd yma yn Aberystwyth a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Unwaith y bydd y prawf wedi'i ddatblygu'n llawn, rydym yn gobeithio y gellir ei ddefnyddio mewn meddygfeydd teulu neu yn y cartref.”
‘Cydweithio’
Mae canser yr ysgyfaint yn effeithio ar bron i 50,000 o bobl y flwyddyn yn y DU, ac yn lladd mwy o bobl nag unrhyw ganser arall.
Mae’n costio mwy na £2.4bn y flwyddyn i’r gwasanaeth iechyd.
Bellach, dim ond mewn tua un o bob wyth o bobl y mae llawdriniaeth yn bosibl, gyda'r mwyafrif ond yn cael cynnig triniaethau i liniaru’r clefyd yn hytrach na sicrhau gwellhad.
Mae’r gwaith yn rhan o bartneriaeth rhwng y Life Science Group, Highfield Diagnostics, ProTEM Services and Valley Diagnostics, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Aberystwyth.
Ychwanegodd yr Athro Mur: “Mae’r tîm yma eisoes wedi adnabod biofarcwyr mewn wrin sy’n gallu gwneud diagnosis o nifer o ganserau a chlefydau eraill.
“Gall hefyd nodi ym mha gyfnod y mae'r afiechyd mewn claf. Trwy barhau i weithio mewn partneriaeth, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ddatblygu ystod o'r profion diagnostig newydd hyn dros y blynyddoedd i ddod.
“Ein nod yw y byddan nhw’n gwneud diagnosis ac yn monitro dilyniant, lleoliad ac effeithiolrwydd amrywiaeth eang o glefydau a chanserau.”
Dywedodd Jenny Murray, Rheolwr Gyfarwyddwr y Life Science Group ac Arweinydd y Prosiect:
“Mae gan y dechnoleg hon y potensial i chwyldroi profion diagnostig yma yn y Deyrnas Gyfunol ac yn fyd-eang, yn enwedig mewn gwledydd lle mae mynediad cyfyngedig at ganolfannau diagnostig.
“Mae’r tîm yn hyderus bydd y ddyfais hon, a’r rhai eraill a fydd yn dilyn, nid yn unig yn achub bywydau ond hefyd yn gallu dangos arbedion sylweddol yn y gwasanaeth iechyd, ailddatblygu’r llwybr diagnostig a chreu swyddi yng Nghymru a refeniw i’r Deyrnas Gyfunol."