Gweinidog cabinet y DU yn galw terfyn cyflymder 20 mya Llywodraeth Cymru yn 'hollol wallgof'
Mae cyflwyno terfyn cyflymder newydd o 20mya ar gyfer rhai ffyrdd preswyl yng Nghymru yn “hollol wallgof”, yn ôl un o weinidogion Cabinet y DU.
Cyhuddodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Penny Mordaunt y Blaid Lafur yng Nghymru o "gosbi" gyrrwyr, er iddi gydnabod fod cyfyngu i 20 mya yn syniad da mewn rhai ardaloedd.
Daeth sylwadau Ms Mordaunt wedi i Aelod Seneddol Ynys Môn, Viriginia Crosbie ofyn iddi "neilltuo amser ar gyfer dadl ar sut y dylen ni fod yn cefnogi economi Cymru, nid ei gosbi?”
Atebodd Ms Mordaunt: “Mae hyn yn hollol wallgof hyd yn oed yn ôl safonau Llywodraeth Llafur Cymru.
“Mae nhw wedi anwybyddu busnesau a mae nhw wedi anwybyddu’r cyhoedd. Mae nhw'n bwrw ymlaen â’r cynllun hwn er gwaethaf gwrthwynebiad enfawr, a chredaf mai’r amcangyfrifiad diweddaraf yw y bydd yn costio £4.5 biliwn i economi Cymru.
“Ond yn waeth mae’n mynd i gynyddu biliau tanwydd unigolion yn sylweddol ac yn niweidiol i’r amgylchedd.
“Yn lle cosbi modurwyr, fe ddylai Llafur fod yn canolbwyntio ar drwsio trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig y trenau.”
Bydd y newid sydd wedi ei gyflywno gan Lywodraeth Cymru yn dod i rym ar 17 Medi.
Dywedodd y Llywodraeth y byddai'r newid ar ffyrdd preswyl yn diogelu bywydau ac yn arbed £92 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru.
Llun: Parliament TV