Criced: Hyfforddwr Morgannwg Matthew Maynard yn gadael ei swydd
Bydd hyfforddwr clwb criced Morgannwg, Matthew Maynard, yn gadael ei swydd wedi pum mlynedd wrth y llyw.
Dyma oedd ei ail gyfnod yn y swydd, a bydd yn gadael flwyddyn cyn i'w gytundeb ddod i ben.
Roedd gan y clwb obeithion i ennill dyrchafiad y tymor yma, ond newidiodd hynny ar ôl colli yn erbyn Caerwrangon ddechrau Medi.
Mewn cyfweliad gyda BBC Sport Wales, dywedodd Maynard: "Dwi'n gobeithio fy mod i yn ei basio ymlaen mewn gwell cyflwr na phan y wnes i gyrraedd.
"Dwi'n teimlo yn ffodus iawn o'r amser dwi wedi ei gael yma, ond mae yna nifer o rwystredigaethau hefyd.
"Mae'r hogiau wedi datblygu'n fawr a dwi wedi newid fy arddull hyfforddi o fod yn eithaf awdurdodol, rydym ni wedi galluogi'r chwaraewyr i berfformio'n dda ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb."
Gorffennodd Morgannwg un safle tu allan i'r safleoedd dyrchafiad yn 2019 a 2022.
Cafodd Maynard ei benodi yn hyfforddwr y clwb am yr ail dro wedi dau dymor fel ymgynghorydd batio o dan Robert Croft.
Wrth siarad gyda BBC Sport Wales, fe wnaeth cyfarwyddwr criced Morgannwg Mark Wallace roi teyrnged i Matthew Maynard.
"Mae Matt wedi gwasanaethu'r clwb yn anhygoel fel chwaraewr ac yn fwy diweddar fel y prif hyfforddwr. Mae'n symud ymlaen ond mae'n parhau yn arwr yn y clwb.
"Pan wnaeth Matt gymryd y swydd, roedd yna lot o waith i'w wneud o flaen a thu ôl y llenni hefyd, a mae Matt wedi gwneud lot fawr o waith gyda nifer o chwaraewyr ac wedi datblygu'r diwylliant."