Newyddion S4C

Teyrnged gan yr Urdd 60 mlynedd ers ffrwydrad eglwys yn Alabama

URDD Alabama

Union 60 mlynedd ar ôl ffrwydrad yn yr eglwys ddu gyntaf yn Birmingham, Alabama, bydd cynrychiolwyr o’r Urdd yn ymweld â’r rhanbarth er mwyn dangos undod gyda’r gymuned Affricanaidd-Americanaidd.

Ar 15 Medi 1963, bu farw pedwar o blant mewn ffrwydrad terfysgol yn Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street, a hynny yn ystod yr ymgyrch Hawliau Sifil yn America.

Fe fydd 13 o Lysgenhadon Yr Urdd, a fu’n gyfrifol am Neges Heddwch ac Ewyllys Da Gwrth-hiliaeth 2023 yn cael y cyfle i ddysgu mwy am hanes hawliau sifil cyfoethog Birmingham, Alabama, medden nhw.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: “Rydym mor falch o’r cyfle i gryfhau ein perthynas gyda’r gymuned Affricanaidd-Americanaidd ym Mirmingham, Alabama a rhoi cyfle i aelodau’r Urdd ddysgu mwy am hanes a digwyddiadau’r rhanbarth.

“Yn gynharach eleni, lluniodd ein pobl ifanc Neges Heddwch ac Ewyllys Da hynod bwerus sy’n taflu’r chwyddwydr ar wrth-hiliaeth, gan nodi’n glir, os yw pobl yn dyst i hiliaeth, bod angen i ni eu ‘Galw. Nhw. Allan.’

“Mae’n briodol iawn, felly, ein bod ni’n ymweld â Birmingham ar y dyddiad pwysig hwn yng nghwmni’r myfyrwyr a greodd y neges ddylanwadol hon ac a glywyd a rannwyd gan filoedd ledled y byd.”

'Llais'

Yn ôl Sian Morgan Lloyd, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n teimlo’n freintiedig i gael teithio i Firmingham, Alabama gydag Urdd Gobaith Cymru, wrth inni ymchwilio mwy i hanes y mudiad Hawliau Sifil, gan ddod i adnabod a meithrin cyfeillion newydd ar hyd y ffordd.

“Mae’r myfyrwyr, a fu’n gweithio ar y Neges Heddwch eleni, yn frwd dros ddefnyddio’u llais i greu newid. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y daith hon yn eu hysbrydoli a’u hysgogi hyd yn oed yn fwy.”

Bydd y daith yn cynnwys ymweliadau â nifer o adeiladau a sefydliadau hanesyddol ac arwyddocaol i’r symudiad hawliau sifil.

Fe fydd y llysgenhadon yn ymweld â chartref Rosa Park, Sefydliad Hawliau Sifil Birmingham, Motel AG Gatson a’r Amgueddfa Etifeddiaeth yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdy gyda phobl ifanc Birmingham.

Image
Wales Window
Y 'Wales Window'

Ffenestr

Dechreuodd perthynas rhwng y Cymry a chymuned Birmingham, Alabama yn dilyn yr ymosodiad terfysgol, pan ysgogwyd yr arlunydd o Lansteffan, John Petts i ddylunio ffenestr liw newydd ar gyfer yr eglwys.

Yn dilyn ymgyrch i godi arian gan y Western Mail cafodd y ffenestr ei chyflwyno i’r eglwys gan bobl Cymru fel arwydd o gefnogaeth ac undod.

Mae’r ffenestr yn parhau i gael ei hadnabod fel y ‘Wales Window’.

Yn 2019 bu ymweliad swyddogol gan Siân Lewis, Prif Weithredwr Yr Urdd, a Gweinidog Addysg Cymru ar y pryd, Kirsty Williams i ddathlu’r berthynas.

Arweiniodd yr ymweliad at bartneriaeth newydd rhwng Yr Urdd a Phrifysgol Alabama i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu mwy am ddiwylliannau a thraddodiadau ei gilydd. 

Ym mis Mehefin eleni, teithiodd Côr yr Efengyl Prifysgol Alabama (UAB) i Gymru i berfformio a dysgu mwy am hanes, iaith a diwylliant Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.