Newyddion S4C

Darganfod concrit RAAC mewn ysgolion yn Sir Ddinbych a Sir Conwy

14/09/2023
Ysgol Maes Owen

Mae ysgolion yn Sir Conwy a Sir Ddinbych wedi eu cau am weddill yr wythnos ar ôl i goncrit RAAC gael ei ddarganfod yno.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi penderfynu cau Ysgol Maes Owen ym Mae Cinmel, wedi i’r concrit gael ei ganfod mewn rhannau o’r adeilad.

Bydd Ysgol Trefnant yn sir Ddinbych ar gau ddydd Gwener hefyd, er mwyn cynnal archwiliad pellach ar y safle, wedi i’r concrit cael ei ganfod yno yn 2019/20. 

Bydd ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal dros y dyddiau nesaf yn y ddau adeilad, er bod lefel y risg yn ‘isel iawn’, yn ôl asesiadau'r cynghorau sir.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru barhau ag ymchwiliadau ar draws holl ysgolion Cymru i asesu a oes concrit RAAC mewn adeiladau.

Wrth drafod y penderfyniad i gau ysgol gynradd Maes Owen, dywedodd Y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS ddydd Mawrth ei fod yn gobeithio bydd canlyniadau’r ymchwiliad ar gael erbyn ddydd Gwener 15 Medi.

Mewn llythyr at rieni Ysgol Maes Owen, dywedodd y pennaeth y byddai disgyblion blwyddyn tri yn cael eu hanfon adref gyda phecyn gwaith, tra bydd blynyddoedd pedwar, pump a chwech yn derbyn addysg ar-lein.

“Er bod y risg ar hyn o bryd yn isel iawn, yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru, mae’r Awdurdod Lleol wedi gwneud penderfyniad gofalus i gau adeilad yr ysgol am weddill yr wythnos hon i ddechrau, tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal,” meddai’r llythyr.

“Rhaid imi bwysleisio unwaith eto mai mesur rhagofalus yw hwn hyd nes y bydd y gwiriadau wedi eu cynnal yn llawn.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r awdurdod lleol am symud mor gyflym â hyn i sicrhau bod ein holl gymuned ysgol Maes Owen yn cael ei chadw’n ddiogel ac yn gwbl hysbys bob amser.”

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:  "Mae’r peirianwyr strwythurol a benodwyd i archwilio ein hysgolion wedi cadarnhau bod Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) yn bresennol yn Ysgol Maes Owen.

"Mae dangosyddion cynnar yn nodi bod y deunydd mewn cyflwr da, fodd bynnag, rydym yn bod yn ofalus a byddwn yn cau’r ysgol am weddill yr wythnos fel mesur rhagofalus tra bydd y peirianwyr strwythurol yn cynnal ymchwiliadau pellach."

Mae pryderon fod y math yma o goncrit, sy'n cynnwys tua 70% o aer, yn gallu mynd yn ansefydlog ar ôl tua 30 mlynedd.

Llun o Ysgol Maes Owen (Google Maps).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.