'Angen denu talent gwyddonol o'r dinasoedd mawr i Gymru'
Mae angen i Gymru "godi ei phroffil" ym maes gwyddoniaeth os yw'r sector am ddenu talent o'r dinasoedd mawr, yn ôl un peiriannydd technoleg AI yn Llundain.
Mae M-Sbarc - y parc gwyddoniaeth ar Ynys Môn - yn cynnal llu o ddigwyddiadau yn Llundain ar hyn o bryd er mwyn dangos arloesedd gwyddonol Cymru i weddill y DU a'r byd.
Fe ddaw hyn wrth i Brydain ailymuno â chynllun ymchwil gwyddonol Horizon - ar ôl ei gadael dair blynedd yn ôl yn sgil Brexit.
I Hanna Gwenllian, peiriannydd technoleg AI yn Llundain - ond yn wreiddiol o Lanelli -mae angen gwneud mwy i sicrhau bod cyfleoedd cystal yn agosach i adref.
"O ni moen symud mewn i'r maes technoleg," meddai.
"Odd y cyfleoedd mwy neu lai i gyd yn eistedd yn Llundain.
"O beth i fi yn ymwybodol, mae yna gymaint llai o gyfleoedd yng Nghymru ac mewn byd delfrydol fydden i'n dwli gweithio'n agosach i adref.
"Ni'r Cymry'n dwli ar gael ein hadnabod am bethau gwahanol ym maes chwaraeon neu'r cyfryngau, a ni'n dwli codi llais am y talent sydd gyda ni.
"Ond yn anffodus dwi ddim yn gweld yr un math o frwdfrydedd yn y gwyddorau neu'r byd technoleg."
Image
Digwyddiad yn Ysgol Gymraeg Llundain
'Amlygu Cymru'
Drwy gydol mis Medi mae M-Sbarc yn trefnu digwyddiadau yn Llundain gyda'r nod o arddangos y talent gwyddonol sydd yng Nghymru i weddill y byd.
Mae gan Barc Gwyddoniaeth M-Sbarc 50 o denantiaid yn y parc ar Ynys Môn. Mae'r sector yn mynnu fod yna swyddi ar gael, ond ddim digon o bobl cymwys sydd efo'r sgiliau perthnasol i'w cyflogi.
"Ma 'na rhyw gam-argraff nad oes 'na ddim byd llawer yn mynd ei flaen yng Nghymru ond pan 'da chi'n dechrau edrych yn fanwl ma 'na bethau difyr iawn. Ac mae angen eu hamlygu," meddai Pryderi ap Rhishart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-Sbarc
Yr wythnos ddiwethaf fe ailymunodd Prydain yn ôl a chynllun ymchwil Horizon - ar ôl gadael dair blynedd yn ôl yn sgil Brexit.
A felly, fe fydd gwyddonwyr Prydain yn gallu hawlio cyfran o'r £81 biliwn o bunnoedd i sbarduno cydweithio gydag Ewrop ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg.
"Ma rhaid i ni feddwl hefyd pa brifddinasoedd eraill allwn ni dargedu yn Ewrop ac America. Dydi hyn ddim yn rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd dros nos - mae'n cymryd amser i ddatblygu perthynas," meddai Dr Edward Thomas Jones, economegydd ym Mhrifysgol Bangor.