Cyhuddo dau ddyn yn dilyn llofruddiaeth honedig yn Llanelli
14/09/2023
Mae dau ddyn yn eu 30au wedi cael eu cyhuddo gan yr heddlu yn dilyn llofruddiaeth honedig yn Llanelli.
Mae James Alan Smith, 35 oed, o Lanelli wedi ei gyhuddo o lofruddio Ashley Sarsero ar 10 Medi.
Mae Stephen George Morgan, 36 oed, sydd hefyd o Lanelli, wedi ei gyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Bydd y ddau yn ymddangos yn Llys yr Ynadon Llanelli fore Iau.
Cafodd dyn 38 ei arestio mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth fore dydd Sul, ond mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu cyfeirnod DP-20230910-089.