Newyddion S4C

Bale yn teimlo'n 'hyderus' cyn Euro 2020

Sgorio 05/06/2021

Bale yn teimlo'n 'hyderus' cyn Euro 2020

Mae Gareth Bale yn dweud bod tîm pêl-droed Cymru yn teimlo'n "hyderus" cyn cychwyn eu hymgyrch Euro 2020.

Bydd y tîm cenedlaethol yn wynebu Albania mewn gêm gyfeillgar ddydd Sadwrn, cyn herio Swistir ar 12 Mehefin ar gyfer eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth. 

Er i'r tîm gael cweir gan Ffrainc nos Fercher, mae asgellwr Cymru yn dweud eu bod wedi chwarae yn dda, a bod y tîm yn hyderus cyn dechrau eu hymgyrch. 

Yn sgwrsio mewn cyfweliad gyda Sgorio, dywedodd Bale: "Dwi'n meddwl ein bod ni wedi chwarae'n dda yn yr 20 munud cyntaf i fod yn onest. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi achosi ychydig o broblemau iddyn nhw.

"Byddai wedi bod yn braf pe byddai'r dyfarnwr wedi gwneud y penderfyniad cywir ac wedi cadw Neco ar y cae. Do'n i ddim yn meddwl ei fod yn haeddu cerdyn coch. Ond am yr 20 munud cyntaf, pan oedden ni gydag 11, roedden ni'n teimlo'n hyderus, ac oedden ni'n teimlo ein bod ni'n achosi problemau iddyn nhw."

Bydd Cymru v Albania yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C gyda'r gohebu yn dechrau am 16.30.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.