Newyddion S4C

Cyhoeddi enw bachgen 10 oed o Gymru a fu farw mewn gwesty yn Blackpool

13/09/2023
Blackpool

Mae enw bachgen 10 oed fu farw ar ôl iddo dderbyn sioc drydanol mewn gwesty yn Blackpool wedi cael ei gyhoeddi.

Cafwyd hyd i Jack Piper-Sheach yn anymatebol tua 22.39 ar ddydd Sul, 3 Medi, yng Ngwesty Tiffany’s ar y Promenâd yn y dref.

Dywedodd yr heddlu fod yr anafiadau i’r bachgen, oedd o Gymru yn ôl adroddiadau, yn awgrymu ei fod wedi derbyn “foltedd uchel o drydan”.

Bu farw gyda'i deulu wrth ochr ei wely bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn yr ysbyty yn Lerpwl.

Mae Llys Crwner Blackpool bellach wedi cyhoeddi manylion agor y cwest, sydd i’w gynnal brynhawn Gwener gan y Crwner Alan Wilson.

Dywedodd Heddlu Sir Gaerhirfryn yn dilyn ymchwiliad cychwynnol bod y mater bellach wedi ei drosglwyddo i'r awdurdod lleol.

Mae Cyngor Blackpool wedi dweud mewn datganiad bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae Gwesty Tiffany’s, ychydig i’r gogledd o Dŵr Blackpool ar lan y môr, wedi bod ar gau ers y digwyddiad.

Yn dilyn marwolaeth Jack, dywedodd llefarydd ar ran y gwesty y byddan nhw’n cynorthwyo unrhyw ymchwiliad ac wedi cydymdeimlo â theulu’r bachgen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.