Newyddion S4C

Pryder cymuned yn Llŷn ei bod yn cael ei 'mygu gan ail gartrefi'

13/09/2023

Pryder cymuned yn Llŷn ei bod yn cael ei 'mygu gan ail gartrefi'

Mae cymuned ym Mhen Llŷn yn dweud eu bod nhw’n cael eu "mygu gan sgil effeithiau ail gartrefi".

Yn ôl ymchwil diweddar, ni all 91% o bobl pentref Botwnnog fforddio prynu tŷ yn lleol.

Wrth i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar bolisi arfaethedig gan Gyngor Gwynedd i'w gwneud hi’n anoddach i droi tŷ yn dŷ gwyliau, mae criw o bobl ifanc yr ardal yn dweud eu bod wedi eu “hanobeithio” wrth feddwl am fyw yn yr ardal yn y dyfodol.

Yn ôl Cyngor Gwynedd fe fyddai cyflwyno Erthygl 4 yn “arf” arall i helpu rheoli’r farchnad dai a sicrhau mwy o dai i bobl ifanc.

Bwriad Erthygl 4 ydy gorfodi unrhyw un sydd am drosi cartref domestig yn ail gartref i dderbyn caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol.

Yn ôl ymgyrchwyr sydd o blaid y mesur fe fyddai’n fodd o reoli’r farchnad ac atal mwy o ail gartrefi.

Ond mae pryderon ymysg gwrthwynebwyr y gallai’r cynllun ostwng gwerth cartrefi o hyd at 5% - pryder sydd wedi ei grybwyll fel sgil effaith posib yn ôl adroddiad Cyngor Gwynedd.

Ond gyda ffigyrau swyddogol yn dangos fod 7,559 o lety gwyliau ac ail gartrefi ar draws Gwynedd yn 2022 mae’r teimlad o ‘anobaith’ yn llethu’r ifanc.

Image
plant ysgol botwnnog
Plant Ysgol Botwnnog (o’r chwith): Bob, Owain, Nanw, Mei

Draw yn Ysgol Botwnnog mae criw o flwyddyn 11 yn cadw llygaid barcud ar y datblygiadau ac yn edrych tua’r dyfodol.

“Does 'na’m tai newydd yn cael eu hadeiladu felly does 'na’m ffordd i bobl sy’n cael eu geni yn yr ardal sydd eisiau aros yma i wneud hynny”, meddai Owain sy’n 15.

Yn ôl Nanw, 15, mae ‘na angen dybryd i gyflwyno polisi Erthygl 4 gan ddisgrifio'r rhai hynny sy’n ei wrthwynebu fel penderfyniad ‘hunanol’.

“Dwi’n gweld o’n warthus”, meddai.

“Dwi’m yn meddwl fod pobl yn gwneud pethau i newid sut mae hi, dwi’n gweld o’n gwaethygu bob blwyddyn a dwi’m yn gweld fi a fy ffrindiau yn gallu byw yma yn y dyfodol”.

Yn ôl Mei, mae’r newid rhwng tymor yr haf a’r gaeaf yn amlwg iawn.

“Mae ‘na lot o dai haf, gormod... mae ‘na newid mawr pan mai’n dod i’r gaeaf, jest neb yma”.

Yn ôl Bob o Flwyddyn 11, mae angen cydbwysedd iach rhwng twristiaeth a’r hawl i fyw yn lleol.

“Dwi’m isho stopio twristiaeth yn gyfan gwbl oherwydd da ni’n rhedeg maes carafanau”, meddai.

“Ma’n nheulu yn dibynnu arno i raddau, ond ella sa’r cyngor yn gallu cael tai fforddiadwy lle mond pobl Cymraeg sy’n gallu byw ynddyn nhw a’u prynu”.

Wrth ystyried sgil effaith Erthygl 4, dengys adroddiad gan Gyngor Gwynedd fod 65% y sir wedi eu prisio allan o’r farchnad a bod hynny yn fwy fyth mewn ardaloedd penodol.

Yn Aberdaron mae’n 96% ac ym Motwnnog mae’n 91%.

Image
Gwennan Griffiths

Mae’n bryder i deuluoedd fel un Gwenan Griffiths sydd â phump o blant ac yn poeni am y dyfodol.

“Does na’m bobl ifanc yn symud i mewn, yn prynu tai... mae nhw’n cael eu prisio allan o’r farchnad yn llwyr.

“Da ni’n cael ein mygu gan dai haf dwi’n teimlo”.

Mae hi’n dweud ei bod yn “poeni’n ddirfawr” am y sefyllfa gan ddweud mai “realiti'r sefyllfa ydy bod yn rhaid cymryd Erthygl 4 i gael y balans”.

Gyda dadleuon cryf ar naill ochr y ddadl, mae cynghorydd ardal Botwnnog am weld mwy o bwyslais ar drafod codi mwy o dai.

Gyda chynllun ar y gweill i godi tai rhent ym mhentref Botwnnog, mae'r Cynghorydd Gareth Williams yn dweud ei fod am weld sgwrs ehangach am y math o dai sydd eu hangen i gadw pobl ifanc yn lleol.

“Y cwestiwn ydi, sut fath o dai da ni angen”?

“Da ni’n gwybod bydd na gais mewn yn fuan wan yn y pentref am 18 o dai social housing, y cwestiwn ydy ai dyma ‘da ni angen?”.

Yn ôl y Cynghorydd Williams, mi fyddai rhain oll yn dai rhent ac mae’n dweud bod nifer yn ei ward yn dweud mai tai i’w prynu fydd yn eu cadw yn lleol.

Pe bai Erthygl 4 yn cael ei wireddu, fyddai’n bolisi unigryw na fyddai'n cael ei weithredu yn unrhyw ardal arall ym Mhrydain.

Fyddai’r polisi ddim yn effeithio ar bob un rhan o Wynedd gan fod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hawliau cynllunio penodol sy’n annibynnol.

Ers Hydref 2022 mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o bwerau i gynghorau Cymru i fynd i’r afael â’r broblem ac ar sail hynny daeth cynllun Erthygl 4 i fodolaeth.

Fe fydd y cyngor rŵan yn ystyried yr ymateb wrth i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.