Newyddion S4C

‘Rhoddodd ddiwrnod o’i bywyd er lles gweddill fy oes’: Menyw yn dod o hyd i'w rhoddwr mêr esgyrn dafliad carreg i ffwrdd

14/09/2023
Taisha Taylor a Kirsty Burnett

Mae menyw o Gaerffili wedi diolch i unigolyn a wnaeth achub ei bywyd gyda thrawsblaniad, a hithau’n byw ychydig o filltiroedd i ffwrdd yn unig ohoni heb iddi wybod.

Fe gafodd Taisha Taylor o Drecelyn drawsblaniad mêr esgyrn yn 2019, a hynny pan oedd hi’n 15 oed. 

Roedd Kirsty Burnett yn un o 40 miliwn yng nghronfa ddata fyd-eang o roddwyr gwirfoddol oedd yn gymwys i roi mêr esgyrn iddi, a hithau’n byw 15 milltir i ffwrdd yng Nghasnewydd.

Nid oes unrhyw berthynas teuluol rhwng y ddwy. 

A hithau bellach yn 20 oed, mae Taisha Taylor wedi diolch i Ms Burnett, 24 oed, am “achub ei bywyd” gyda’r trawsblaniad “trawsnewidiol.”

Yn un o’r menywod cyntaf i dderbyn diagnosis o’i fath, roedd Ms Taylor yn byw gyda chyflwr imiwnedd etifeddol prin o’r enw Chronic Granulomatous Disease (CGD) ers iddi fod yn blentyn ifanc. 

Bu farw tad Ms Taylor ar ôl dioddef â’r un cyflwr, sy’n achosi i’r system imiwnedd i fethu, ac ar ôl derbyn sawl un driniaeth feddygol – trawsblaniad mêr esgyrn oedd ei gobaith olaf o fyw bywyd iach. 

Image
Taisha Taylor a Kirsty Burnett
Kirsty Burnett (chwith) a Taisha Taylor (dde)

'Breuddwydio'

Wedi iddi dreulio blynyddoedd yn “breuddwydio” am gwrdd â’r unigolyn a wnaeth achub ei bywyd, fe gysylltodd Taisha Taylor gyda’i rhoddwr ym mis Rhagfyr 2021, wedi iddi orfod aros o leiaf dwy flynedd cyn iddi fedru gwneud yn ôl y gyfraith. 

Ond mae’r ddwy bellach wedi dod yn ffrindiau agos sydd yn ystyried ei gilydd fel “teulu” erbyn hyn, meddai’r ddwy.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ms Taylor: “Trwy gydol y broses, o’n i arfer breuddwydio am y person yma a wnaeth achub fy mywyd. 

“Ac fe wnaeth hi wir achub fy mywyd. Mae yna achosion lle’r oedd pobl a’r un cyflwr a finnau yn marw erbyn eu 30au, a doeddwn i wir ddim eisiau hynny i ddigwydd i mi. 

“Ers y dechrau o’n i wastad eisiau cwrdd â hi. 

“Mae yna gymaint o wybodaeth mae rhaid i chi gadw’n breifat yn y dechrau felly yn fy nghof i, roedd y person yma yn byw milltiroedd i ffwrdd a fyddai byth wedi gallu cwrdd â nhw – er y byswn i wedi teithio’r byd i gyd er mwyn ‘neud,” meddai.

Chwalu’r rhagdybiaeth

A hithau’n byw 15 milltir i ffwrdd yn unig, roedd Kirsty Burnett yn cyfateb i anghenion meddygol Ms Taylor er mwyn medru rhoi ei mêr esgyrn iddi yn llwyddiannus. 

Mae’r ddwy bellach yn cadw mewn cyswllt yn ddyddiol, ac maent hyd yn oed wedi cael yr un tatŵ i nodi eu perthynas arbennig.

Image
Tatŵ Kirsty a Taisha
Mae'r ddwy fenyw wedi cael yr un tatŵ i nodi eu perthynas

Wrth edrych ymlaen at ddiwrnod Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd ddydd Sadwrn, mae Ms Burnett yn annog unigolion i roi gwaed ag ymuno gyda cofrestr mêr esgyrn er lles dyfodol cleifion yn rhyngwladol. 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae yna ragdybiaeth ynglŷn â’r proses o roi eich mêr esgyrn. 

“Mae sawl un yn meddwl ei fod yn broses hynod o boenus a rili anodd, ond ‘dyw e ddim o gwbl. Mae’n broses syml iawn. 

“Does dim rhaid i chi roi’r mêr esgyrn gyda sawl un nodwydd yn eich cefn, er mai dyna y mae pawb yn ei feddwl. 

“Rhan fwyaf o’r amser, mae’r mêr esgyrn yn cael eu cymryd trwy eich bôn-gelloedd ymylol, a hynny’n cael ei wneud drwy bibell ym mhob braich. Wedyn ‘dych chi jyst yn eistedd yna am y diwrnod.

“’Dyw e ddim yn broses gymhleth o gwbl,” ychwanegodd. 

‘Un ym mhob miliwn'

Bob blwyddyn, mae tua 2,000 o bobl yn y DU a 50,000 o bobl ledled y byd angen trawsblaniad mêr esgyrn gan roddwr sydd ddim yn perthyn iddyn nhw.

Fe wnaeth Kirsty Burnett ymuno â’r gofrestr mêr esgyrn pan roedd hi’n 17 oed, ar ôl iddi roi gwaed am y tro cyntaf. Roedd hi wedi annog pobl ifanc i ystyried gwneud yr un peth hefyd er mwyn gallu achub bywydau.

Image
Kirsty Burnett
Kirsty Burnett yn rhoi ei mêr esgyrn

Mae mêr esgyrn i'w gael yng nghanol esgyrn penodol yn y corff lle mae bôn-gelloedd y gwaed yn byw, a rheiny’n gyfrifol am holl gelloedd gwaed hanfodol y corff. 

Dywedodd Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru: “Roedd dod o hyd i fêr esgyrn oedd yn cyfateb bron yn union i broffil DNA Taisha, a hynny’n cael ei adnabod fel ‘sister match’ – heb unrhyw berthynas teuluol, yn hynod o brin. 

“Ac mae’r ffaith eu bod yn byw mor agos at ei gilydd; mae’n debyg ei fod yn rhywbeth sy’n digwydd mewn un ym mhob miliynau o achosion. 

“Ar hyn o bryd, ni fydd tri o bob 10 claf yn dod o hyd i'r rhoddwr sydd ei angen arnynt, ac mae'r ystadegyn hwnnw'n codi i saith o bob 10 os ydych chi o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig.

"P'un a ydych chi'n gymwys i ymuno neu'n adnabod rhywun a allai fod yn gymwys i ymuno, siaradwch â phobl ifanc am y gofrestr hon sy'n gallu newid bywydau, a helpwch i roi cyfle i fwy o gleifion oresgyn eu salwch.

"Mae sut mae mêr esgyrn yn cael eu defnyddio yn anhygoel. Mae angen cymaint o bobl â phosibl arnom i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru."

Fe all pobl rhwng 17 – 30 oed ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru naill ai drwy ofyn am becyn swab ar-lein neu, fel Kirsty Burnett, wrth roi gwaed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.