Newyddion S4C

Prifysgolion Cymru 'ymysg y rhai mwyaf tebygol o gynnal banciau bwyd i’w myfyrwyr'

14/09/2023
Prifysgol

Mae prifysgolion yng Nghymru ymysg y rhai mwyaf tebygol o weithredu banc bwyd i gefnogi myfyrwyr, yn ôl adroddiad newydd.

Mae gan fwy na chwater o brifysgolion y DU wasanaeth banc bwyd bellach, yn ôl ymchwil y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI).

Dywed yr adroddiad mai prifygsolion yng Ngogledd Iwerddon a Llundain yw’r lleiaf tebygol o gynnal gwasanaeth banc bwyd.

Ychwanegodd yr adroddiad bod un o bob 10 prifysgol wedi bod yn dosbarthu talebau bwyd i fyfyrwyr.

Roedd adroddiad HEPI yn ymchwilio i strategaethau cefnogi myfywyr 140 o Brifysgolion y DU.

Roedd ychydig dros hanner y prifysgolion yn cynnig gostyngiadau ar fwyd, tra bod 27% yn gweithredu banc bwyd ac 11% yn dosbarthu talebau.

Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod traean o brifysgolion Grŵp Russell – rhai o sefydliadau addysg mwyaf uchel eu parch yn y DU – yn gweithredu banc bwyd, o gymharu â 26% o brifysgolion eraill.

Dywed yr adroddiad bod Prifysgol Manceinion wedi sefydlu grŵp gweithredol argyfwng costau byw a chynnig taliadau o £170 i fwy na 90% o’i myfyrwyr.

Yn sgil canfyddiadau adroddiad HEPI, maen nhw’n galw ar bob prifysgol i sefydlu gweithgorau, lansio cronfeydd brys a chynnwys myfyrwyr trwy gydol eu hymateb costau-byw.

Dylai Llywodraeth y DU hefyd sefydlu grwpiau costau byw sy’n ymgynghori’n rheolaidd gyda myfyrwyr ac arweinwyr sector. Mae HEPI hefyd yn galw ar San Steffan a’r llywodraethau datganoledig i gynyddu’r benthyciad cynhaliaeth myfyrwyr yn unol â chwyddiant.

Yn ôl awdur yr adroddiad, Josh Freeman, mae'n rhaid i brifysgolion “gamu i fyny wrth i fyfyrwyr brofi eu hail argyfwng mawr mewn pedair blynedd”, ar ôl y pandemig.

Ychwanegodd: “Mae’n hen bryd i Lywodraeth San Steffan fynd i’r afael â’r dirywiad mewn termau real mewn cymorth cynhaliaeth, sy’n gadael gormod o fyfyrwyr mewn perygl o amddifadedd – yn yr hyn sydd i fod yn flynyddoedd gorau o eu bywydau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn deall y pwysau costau byw ychwanegol sydd ar fyfyrwyr oherwydd yr argyfwng costau byw.

"Mae ein grantiau a’n benthyciadau i fyfyrwyr wedi cynyddu bob blwyddyn, gyda Chymru’n cael y cymorth myfyrwyr mwyaf hael yn y DU. Yn ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi y bydd cyfradd y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan-amser o Gymru yn cynyddu 9.4%.

“Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gronfeydd caledi i helpu pob myfyriwr sydd mewn trafferthion ariannol, ac maent wedi rhoi cymorth costau byw ychwanegol ar waith, sy’n cynnwys: grantiau argyfwng, bwyd am ddim neu am gost isel, cynhyrchion mislif am ddim a mynediad am ddim i chwaraeon. a gweithgareddau. Dylai unrhyw un sy’n cael trafferthion ariannol gysylltu â’u hundeb myfyrwyr neu wasanaethau cymorth myfyrwyr.”

“Yn ddiweddar, fe wnaethom hefyd ddarparu cyllid ychwanegol o £2.3m i helpu i fynd i’r afael ag effeithiau costau cynyddol ar fyfyrwyr, gan ddarparu cymorth iechyd meddwl a llesiant.”

Mae Newyddion S4C hefyd wedi gofyn i Lywodraeth y DU am eu hymateb i ganfyddiadau'r adroddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.