Newyddion S4C

Sunak am wahardd cŵn tarw American XL

15/09/2023
Y ci

Mae Prif Weinidog y DU wedi cadarnhau ei fwriad i wahardd cŵn tarw 'American XL, yn dilyn cyfres o ymosodiadau treisgar diweddar.

Ond mae perchennog un ci sy'n perthyn i'r brîd dadleuol wedi dweud wrth Newyddion S4C nad yw’n deg “peintio bob ci gyda’r un brwsh”.

Mae cŵn tarw 'American XL' wedi hawlio'r penawdau'n ddiweddar wedi nifer o ymosodiadau ar bobl, gyda'r diweddaraf yn digwydd ar ferch 11 oed yn Birmingham ddydd Sadwrn, gyda lluniau wedi’u postio ar-lein o'r digwyddiad.

Gall y cŵn bwyso mwy na naw stôn (60kg) a mae nhw'n aml yn fwy cryf a phwerus nag oedolyn.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Sunak: “Heddiw, rwyf wedi gofyn i weinidogion ddod â’r heddlu ac arbenigwyr at ei gilydd, i ddiffinio'r brid yma o gi, sy'n gyfrifol am yr ymosodiadau hyn, gyda’r bwriad o’i wahardd yn y pen draw.

“Nid yw’n frîd a ddiffinnir gan y gyfraith ar hyn o bryd, felly mae’n rhaid i’r cam cyntaf hanfodol hwn ddigwydd yn gyflym.

“Byddwn wedyn yn gwahardd y brîd o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus a bydd deddfau newydd yn eu lle erbyn diwedd y flwyddyn."

Anifeiliaid anwes hyfryd

Mae perchnogion yn mynnu, er gwaethaf eu hymddangosiad a'u maint, bod y cŵn yn anifeiliaid anwes hyfryd.

Mae Chris Pritchard o Lanrug yn disgrifio Oli, ei gi XL 17 mis fel “ci teulu perffaith a ffrind gorau” iddo.

Image
newyddion
Mae Oli yn pwyso naw stôn, ac fe all dyfu yn fwy llydan wrth fynd yn hŷn

Cyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ddydd Gwener, roedd Mr Pritchard wedi dweud y byddai'n ystyried symud pe bai gwaharddiad ar ei gi yn dod i rym yn y DU. 

“Fyswn i yn torri calon fi, ond dwi ddim yn gwybod be fysa fo’n golygu i fi? Lle fysa Oli yn mynd? Byswn ni’n gorfod rhoi o lawr? Os hynna, 'swn i probably yn symud i wlad arall achos babi fi ydi o.”

Mae Mr Pritchard yn credu mai cyfrifoldeb y perchennog yw ymddygiad pob ci.

“Mae rhai pobl yn deud bod y ci yma wedi cael ei bridio i ladd ac i hela ac intimidatio pobl, ond dim dyna ydi’r ces," meddai.

"Bridio yr XL’s nathon nhw i fod yn gi teulu.

“Mae o, Oli yn gi teulu grêt, rili da. Ond mae o'n meddwl bod o'n fabi a mae o'n meddwl bod o'n lap dog, so neith o ista arna chdi, a mae o'n 9 stôn!”

Image
newyddion
Oli yn cysgu ar y soffa gyda Gemma, gwarig Chris

Yn ôl Mr Pritchard, nid gwahardd y brid yma yw’r ffordd ymlaen, ond  rheoleiddio perchnogion cŵn mawr.

“Y minority sy’n neud y drwg ac yn castio doubt ar bob un arall, a dim ots pa gi  sgin ti - os mae o'n cael ei drin yn anghywir neu mae o yn y dwylo rong mae o am droi allan i fod yn beryg," meddai.

“Dwi’n cofio tyfu fyny yn y 90au a Rottweilers oedd yn chael hi, a cyn hynna Alsatians oedd yn cael y bai. Dim bai'r cŵn ydi o, bai'r bobl ydi o,  achos mae’r cŵn yn trio satisffaio a plesio owners nhw, dyna mae cŵn yn neud.

"So, os ydyn nhw’n cael eu trainio i frathu a bod fel'na dyna maen nhw am neud.

“Dwi meddwl efo cŵn ac efo cŵn mawr in general mae angan regulations o bwy sydd yn cael bod berchen y cŵn, dyla perchnogion fod yn qualified, a gwneud background checks ar bobl a’r tŷ.”

Er bod Mr Pritchard yn cydnabod bod cŵn yn gallu bod yn beryglus, dywedodd bod angen cofio bod pobl ddrwg yn bodoli mewn pob cymdeithas ond nid yw’n golygu bod pawb yn ddrwg, “ma’ ru’n fath efo brîd cŵn dwi’n meddwl,” meddai.

Mae gan Mr Pritchard a’i deulu gi arall hefyd, ac mae Oli'r ci tarw 'American XL' yn aml yn byhafio’n well na Harri y Cockerpoo.

Image
newyddion
Oli a Hari

“Mae Oli yn ofn cockerpoo fi, sa gennai fwy o ofn i Harri'r ci neud rwbath drwg na hwn, go iawn," meddai.

“Oedd o yn ista ar y gwely efo’r ferch chydig yn nôl yn cael peintio ei winedd - dyna faint o fabi ydio.”

'Siomi'n aruthrol'

Mae cŵn tarw 'American XL' wedi bod ym mhenawdau'r newyddion yn gyson am ymosodiadau trasig.

Ychydig dros wythnos yn ôl, fe wnaeth dau gi, American XL Bulldog, ladd 22 o ddefaid beichiog, ac anafu 48 o ddefaid eraill.

Yn 2021, cafodd Jack Lis, 10 oed, ei ladd yng Nghaerffili, gan gi a gafodd ei adnabod fel American Bully neu American XL Bulldog.

Mae mam Jack, Emma Whitfield wedi cwestiynu pam nad yw Llywodraeth y DU wedi gweithredu ynghynt i wahardd y math hwn o gi.

Mae pedwar brid wedi’u gwahardd o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991: Yr 'American pit bull terrier', 'Japanese tosa', 'Dogo Argentinos' ac 'Fila Brazileiro'.

Mae'r mesur yn rhoi'r pŵer i'r llywodraeth wahardd unrhyw frid rhag cael eu “magu ar gyfer ymladd neu bod â nodweddion at y diben hwnnw".

Image
newyddion
Mae cryn ddadlau wedi bod am ddyfodol American XL Bulldog yn y DU

Yn ôl datganiad fis diwethaf gan grŵp o elusennau a milfeddygon, gan gynnwys y RSPCA, y Gymdeithas Milfeddygaeth Brydeinig a'r Dogs Trust, mae angen i'r Llywodraeth beidio â chyhoeddi deddfwriaeth sydd yn 'gwahaniaethu' bridiau penodol o gŵn, gan gynnwys yr American XL Bulldog.

Yn siarad ar ran y Grŵp Rheolaeth Cŵn, dywedodd Dr Samantha Gaines o'r RSPCA fod deddfwriaeth o'r fath, sydd wedi bod yn y gyfraith ers 32 mlynedd bellach, wedi methu.

“Rydym wedi ein siomi'n aruthrol gan achosion diweddar o gŵn yn brathu, digwyddiadau hynod o drist sydd yn pwysleisio'r angen am weithredu cyflym a newid yn y ffordd rydyn ni'n ymdrin â'r broblem," meddai.

“Ond nid yw ychwanegu un brîd arall o gi i'r ffordd ddiffygiol yma o feddwl, sef gwahardd mathau penodol o gi ar sail eu hedrychiad, yn mynd i ddatrys y broblem.

“Bydd gweithred o'r fath yn gorfodi elusennau i roi mwy o gŵn diniwed i gysgu, gan roi haen arall o ddiogelwch ffug i'r cyhoedd yn y polisi yma sydd heb weithio ers 32 mlynedd - a fydd ddim yn gweithio nawr yn fwyaf sydyn."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.