Newyddion S4C

Rygbi: Gatland yn gwneud 13 newid i dîm Cymru yn erbyn Portiwgal

13/09/2023
Cymru Rygbi Cwpan y Byd

Mae Warren Gatland wedi gwneud 13 newid wrth i Gymru gyhoeddi’r tîm fydd yn herio Portiwgal yng Nghwpan Rygbi’r Byd ddydd Sadwrn.

Dewi Lake fydd yn gapten ar y tîm, wrth i Gatland benderfynu gorffwys sawl chwaraewr yn dilyn y fuddugoliaeth dros Ffiji yn y gêm agoriadol.

Bydd y mewnwr Tomos Williams yn dechrau’r gêm yn Stade de Nice, gan ennill ei 50fed cap.

Gareth Anscombe sydd wedi ei ddewis yn safle’r maswr, yn dilyn adroddiadau fod Dan Biggar wedi dioddef anaf i’w gefn yn y gêm yn erbyn Ffiji.

Bydd Lake yn cael cwmni Nicky Smith a Dillon Lewis yn y rheng flaen, gyda’r deuawd o Gaerwysg, Christ Tshiunza a Dafydd Jenkins yn yr ail reng.

Mae Taulupe Faletau yn cadw ei le yn y tîm, gyda Dan Lydiate a Tommy Reffell yn cwblhau’r rheng ôl.

Ymysg yr olwyr, bydd Louis Rees-Zammit a Rio Dyer ar yr esgyll, gyda’r profiadol Leigh Halfpenny yn gefnwr. Bydd Johnny Williams a Mason Grady yn dechrau yng nghanol y cae.

O safbwynt yr eilyddion, Gareth Davies, Sam Costelow a Josh Adams sydd wrth gefn o ran yr olwyr.

Ryan Elias, Corey Domachowski a Tomas Francis yw’r opsiynau ar gyfer y rheng flaen gydag Adam Beard a Taine Basham yn cwblhau’r fainc.

'Cynllun clir'

Cyrhaeddodd y garfan ddinas Nice o Bordeaux brynhawn Llun er mwyn ymarfer ar gyfer ail gêm eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd.

Dywedodd Gatland: "Gan mai dim ond chwe diwrnod sydd rhwng y ddwy gêm, ry’n ni wedi gwneud cryn dipyn o newidiadau.

"Bydd yr ornest hon yn gyfle gwych i’r 23 chwaraewr yma ddangos beth y gallan nhw ei wneud.

“Mae ‘na gystadleuaeth arbennig o fewn y garfan – sef yr union beth sydd ei angen arnom. Mae gennym gyfle da ddydd Sadwrn i osod ein marc ar y gystadleuaeth.

"Ry’n ni wedi edrych yn ôl yn fanwl ar gêm ddydd Sul diwethaf ac mae agweddau o’n chwarae y mae'n rhaid i ni wella arnyn nhw.

“Mae gennym gynllun clir ar gyfer herio Portiwgal ac rwy’n disgwyl i ni weithredu'r hyn yr ydym wedi ei ymarfer, ar y cae ddydd Sadwrn.

"Mae Portiwgal yn dîm dawnus ac fe fyddan nhw’n awchu i berfformio’n dda yn eu gêm gyntaf o’r gystadleuaeth eleni.

“Fe wnawn ni’n gorau glas hefyd ac ry’n ni’n edrych ymlaen y fawr at weld cefnogaeth gref yn Nice dros y penwythnos."

Tîm Cymru i wynebu Portiwgal

15. Leigh Halfpenny (heb glwb – 100 cap)
14. Louis Rees Zammit (Caerloyw – 28 cap)
13. Mason Grady Cardiff Rugby/ Caerdydd – 4 cap)
12. Johnny Williams (Scarlets – 6 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 10 cap)
10. Gareth Anscombe (Suntory Sungoliath – 35 cap)
9. Tomos Williams (Caerdydd – 49 cap)
1. Nicky Smith (Gweilch – 44 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 9 cap)
3. Dillon Lewis (Harlequins – 52 cap)
4. Christ Tshiunza (Caerwysg – 7 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 8 cap)
6. Dan Lydiate (Dreigiau – 71 cap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 11 cap)
8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 101 cap)

Eilyddion

16. Ryan Elias (Scarlets – 35 cap)
17. Corey Domachowski (Caerdydd – 3 cap)
18. Tomas Francis (Provence Rugby – 73 cap)
19. Adam Beard (Gweilch – 48 cap)
20. Taine Basham (Dreigiau – 13 cap)
21. Gareth Davies (Scarlets – 70 cap)
22. Sam Costelow (Scarlets – 5 cap)
23. Josh Adams (Caerdydd – 51 caps)

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.