Rhyddhau delweddau o ddyn fel rhan o ymchwiliad i ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerfyrddin
Mae swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi rhyddhau lluniau cylch cyfyng o ddyn wrth ymchwilio i ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerfyrddin.
Yn ôl y llu fe wnaeth dyn ymosod yn rhywiol ar fenyw yng ngorsaf y dref ar ddydd Iau 13 Gorffennaf.
Roedd y fenyw yn aros am drên i orsaf Doc Penfro am 14:50 pan ddechreuodd y dyn siarad gyda hi cyn ymosod arni'n rhywiol.
Ychwanegodd y llu bod y dyn wedi dilyn y fenyw ar y trên ac eistedd wrth ei hymyl gan ei hatal rhag symud.
Fe wnaeth y dyn barhau i siarad gyda hi cyn ymosod yn rhywiol arni eto.
Fe adawodd y dyn y trên yn Ninbych-y-pysgod tua 15:30.
Mae swyddogion eisiau siarad gyda'r dyn yn y lluniau cylch cyfyng mewn cysylltiad gyda'u hymchwiliad.
Mae'r llu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu trwy anfon neges destun i 61016 neu galw rhif 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyferinod 2300081083.
Llun: Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig