Rhybudd fod tynnu hunluniau yn dychryn merlod
Mae ymwelwyr ag ardal o harddwch naturiol yng Nghymru wedi cael rhybudd i "beidio cymryd hunluniau" gyda merlod wedi i ebol newydd-anedig ddisgyn i'w farwolaeth oddi ar glogwyni.
Mae Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau (NCI) sydd â chanolfan yn Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr yn apelio ar ymwelwyr i gadw pellter oddi wrth y merlod yno.
Dylai pobl chwyddo'r lluniau ar eu camerâu er mwyn cael llun agosach o'r anifeiliaid er mwyn osgoi eu dychryn, yn ôl y sefydliad.
Mewn digwyddiad ar wahân, fe gafodd dynes ei "chicio gan stalwyn" ac roedd angen cymorth brys arni, yn ôl yr NCI.
"Bron bob diwrnod, wrth yrru i'n cwt ac oddi yno, rydym yn gweld aelodau o'r cyhoedd yn ceisio cyffwrdd neu gymryd 'hunluniau' gyda'r ceffylau," meddai'r sefydliad.
"Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaeth ebol newydd-anedig ddisgyn dros y clogwyni gan ei fod wedi dychryn pan geisiodd criw o bobl gymryd hunluniau gydag ef.
"Cadwch eich pellter a chwyddwch y llun ar eich ffôn er mwyn cael llun agos o'r ceffylau. Arhoswch yn ddiogel o'u cwmpas."
Llun: Ceffylau ar Benrhyn Gŵyr gan Sam-Cat (CC BY-ND 2.0).