Newyddion S4C

Tân ar gwch ym Marina Conwy dros y penwythnos yn 'ddamweiniol'

13/09/2023
tân marina conwy / gwasanaeth tân ac achub y gogledd

Roedd tân ar gwch ym Marina Conwy ddydd Sadwrn yn ddamweiniol yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl i fwg gael ei weld yn ymledu i’r awyr am 18.00.

Fe gafodd dynes ei throsglwyddo i'r ysbyty gydag anafiadau i'w choes ac fe gafodd dau gwch eu difrodi yn sylweddol yn sgil y digwyddiad. 

Roedd criwiau o Gonwy, Bae Colwyn, Llanfairfechan a Llandudno yn bresennol yn ogystal â'r Uned Digwyddiadau Dŵr o Fangor a’r Uned Rheoli Digwyddiadau o'r Rhyl. 

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Paul Kay: "Roedd y digwyddiad yma yn enghraifft arbennig o waith aml-asiantaeth, gyda chydweithwyr yn yr Ystafell Reoli ar y cyd ac yn y digwyddiad yn gweithio’n sydyn ag yn effeithiol gyda phartneriaid a staff y marina er mwyn atal y tân rhag lledaenu at longau eraill.

"Sicrhaodd cyfarfodydd aml-asiantaeth gyda chydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Cyngor Conwy, Gwylwyr y Glannau a Swyddfa’r Arfordir hefyd bod ymateb cydlynol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.