‘Penderfyniadau anodd’ ar y ffordd wrth i fyrddau iechyd Cymru wynebu ‘heriau ariannol eithafol’
Mae gweinidog iechyd Cymru wedi dweud fod “penderfyniadau anodd” ar y ffordd wrth gyhoeddi bod byrddau iechyd Cymru yn wynebu “heriau ariannol eithafol”.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw llygad manylach ar bob un bwrdd iechyd, medden nhw, yn sgil “pryderon”.
Mae chwyddiant gan gynnwys costau ynni uwch yn cael y bai am y gorwariant.
Mae’r byrddau iechyd wedi dweud eu bod nhw’n pryderu y gallai’r gorwariant fod cymaint â £650m, gan gynnwys dros £100m gan fwrdd iechyd Hywel Dda yn ne-orllewin Cymru unig.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod yr holl fyrddau iechyd wedi’u huwchgyfeirio i “fonitro uwch” ar gyfer cynllunio a chyllid.
Mae hyn yn golygu y bydd tri bwrdd iechyd ychwanegol yn destun i ragor o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.
“Nid ydym yn gwneud y penderfyniadau hyn yn ysgafn ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ariannol anodd iawn rydym ynddi, o ganlyniad i chwyddiant a chyni, a’r heriau sy’n effeithio ar fyrddau iechyd,” meddai.
“Rydym yn gweld pwysau gweithredol, rhestrau aros hir, a sefyllfa ariannol eithriadol heriol yn y GIG – ond nid yw hyn yn unigryw i Gymru.
“Byddwn yn cefnogi byrddau iechyd i wella eu sefyllfaoedd cynllunio ariannol, ond bydd angen gwneud rhai penderfyniadau anodd wrth i ni weithio drwy’r her ariannol galed iawn hon.
“Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ochr yn ochr â’r GIG, byddwn yn gweithio gyda’r cyhoedd i amlinellu lle mae angen gwneud arbedion i leihau’r diffygion sylweddol hyn yn y gyllideb.”
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd bod “perfformiad gwael” y byrddau iechyd yn “adlewyrchu yn wael ar Lywodraeth Llafur Cymru”.
“Mae’n gam cadarnhaol bod y gweinidog iechyd yn sylweddoli cyflwr gresynus y gwasanaeth iechyd ond does gen i ddim ffydd y byddwn ni’n gweld unrhyw welliant pellach dros y misoedd nesaf,” meddai Russell George.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal: “Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach mewn rhyw fath o fesurau uwch. Mae hyn yn ddifrifol.
“Mae’r ffaith bod y Llywodraeth yn cyhoeddi hwn fel Datganiad Ysgrifenedig heb unrhyw gyfle i’r Senedd graffu arno ar unwaith yn gam sinigaidd gan Weinidog sydd i bob golwg wedi colli gafael ar y sefyllfa. Ni ddylai fod wedi cymryd hyd yma i’r Gweinidog weithredu a sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa yr oedd byrddau iechyd ynddi."
‘Targedu’
Mae monitro uwch yn golygu rhagor o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, ond nid yw mor ddifrifol â gosod bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig.
Roedd cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eisoes yn cael ei fonitro gan Lywodraeth Cymru ac mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ers mis Chwefror.
Dywedodd y gweinidog iechyd fod “gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud ym Mwrdd Iechyd Taf Morgannwg”.
Roedd hynny’n golygu fod modd lleihau’r lefel ymyrraeth o “ymyrraeth wedi’i thargedu” i “fonitro gwell” ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, meddai.
Dywedodd fod y newid yn dyst i ymdrechion enfawr staff yr unedau i drawsnewid adran heriol iawn.
“Er bod rhai meysydd o hyd lle mae angen gwelliannau pellach, mae’n amlwg bod cynnydd yn parhau i gael ei wneud ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg,” meddai Eluned Morgan.
“Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y gwelliannau hyn a hoffwn ddiolch i holl staff y bwrdd iechyd am eu holl waith caled yn cefnogi a thrawsnewid y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a’r swyddogaethau llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder.”