Mam Josh Roberts angen 'atebion' am yr hyn ddigwyddodd i'w mab
Mam Josh Roberts angen 'atebion' am yr hyn ddigwyddodd i'w mab
"Josh fi ydi o...dwi isio fo cysgu'n dawel ac o'n i'n gobeithio byswn i wedi cael atebion cyn gorfod claddu fo."
Mae mam dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon yn gynharach eleni yn dweud bod y teulu angen atebion am yr hyn ddigwyddodd.
Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19 oed, mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ar 2 Mehefin eleni.
Roedd yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd ei fam Melanie Tookey: "'Dan ni ddim yn medru prosesu pethau. 'Dan ni dal methu coelio'r peth achos does genna ni ddim byd i ddeud 'hyn sydd wedi digwydd' neu beth bynnag. 'Dan ni ddim yn gwybod.
"Mae o jyst yn horrible bod yn y sefyllfa yma."
Mae dyn 32 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth Joshua Lloyd Roberts drwy yrru'n ddiofal.
Mae'r dyn bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
'Disgwyl a disgwyl'
Byddai Josh wedi dychwelyd i'r brifysgol yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
"Fysa Josh i fod i fynd yn ôl i brifysgol wythnos yma so mae'r cyfnod oedd o fod adra, y pymtheg wythnos 'dio ddim 'di bod yma," meddai Melanie.
"Mewn ffordd 'dan ni weithiau jyst yn meddwl bod o jyst yng Nghaerdydd ond wedyn 'dan ni'n atgoffa'n hunain, na dydi o'm yma, ond weithiau neith hynna helpu ni jyst mynd â ni trwy'r disgwyl 'ma."
Ychwanegodd: "Dwi mor falch o Josh. Fyswn i ddim di medru gofyn am fab gwell ac o'n i yn deutha fo yn aml fod fi'n falch ohono fo a dwi'n hapus bo' fi 'di gwneud hynny.
"'Dan ni jyst isio fo fod drosodd i ni gael symud ymlaen yn lle bod ni jyst yn disgwyl a disgwyl a disgwyl."
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru wrth BBC Cymru: “Rydym yn parhau i ymchwilio i farwolaeth drasig Joshua Roberts ac mae'r teulu'n cael y wybodaeth ddiweddaraf gan swyddogion cyswllt teulu.”