Newyddion S4C

Miloedd wedi marw yn Libya yn dilyn storm enfawr a llifogydd

Libya

Mae pryderon fod 3,000 o bobl wedi marw a llawer iawn mwy ar goll yn dilyn storm enfawr yn Libya.

Fe wnaeth Storm Daniel daro dwyrain y wlad ddydd Sul, gan achosi i ddau argae a phedair pont ddymchwel yn ninas Derna.

Mae'r awdurdodau yn amcangyfrif fod dros 1,500 o bobl wedi marw yn y llifogydd yn Derna yn unig, gyda rhannau helaeth o’r ddinas o dan ddŵr.

Mae hyd at 10,000 o bobl ar goll o ganlyniad i’r llifogydd, yn ôl y Groes Goch.

Mae'r storm hefyd wedi effeithio ar ddinasoedd dwyreiniol Benghazi, Soussa ac Al-Marj. 

Dywedodd Hisham Chkiouat, sy'n weinidog awyrennau, fod y llifogydd ‘yn debyg i tsunami’.

Dywedodd Mr Chkiouat wrth y BBC: “Mae cymdogaeth enfawr wedi ei dinistrio – mae yna nifer fawr o ddioddefwyr sydd yn cynyddu pob awr.

“Mae 1,500 wedi marw ar hyn o bryd. Mwy na 2,000 ar goll. Nid oes gennym y ffigyrau cywir ar hyn o bryd ond mae’n drychineb.”

Mae Twrci ac Iran wedi ymrwymo i anfon cymorth i’r wlad, gan gynnwys gofal meddygol, timau achub, pebyll a dillad.

Llun: X/Nahel Belgherze

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.