Cyngor Cymuned yn y gogledd yn ymddiheuro am golli £9,000 wedi twyll ar-lein
Mae cyngor cymuned yn y gogledd orllewin wedi ymddiheuro'n ffurfiol am golli £9,000 o arian trethdalwyr oherwydd twyll ar-lein.
Dywedodd Cyngor Cymuned Harlech bod camau diogelwch wedi eu "tynhau" wedi'r digwyddiad.
Roedd y £9,000 a gafodd ei golli yn cynrychioli 10% o gyllideb y cyngor.
Fe wnaeth cynghorwyr ymddiheuro i rai trigolion oedd yn cwestiynu penderfyniadau ariannol y cyngor mewn cyfarfod ar ddechrau mis Medi.
Cafodd datganiad swyddogol ei gyhoeddi gan y cyngor yn ymddiheuro i drigolion Harlech ddydd Mawrth.
"Ar ran Cyngor Cymuned Harlech rydym eisiau cymryd y cyfle i ymddiheuro i'n trigolion am golli £9,000 mewn arian trethdalwyr o ganlyniad i dwyll a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr.
"Er bod ymddiheuriad wedi’i roi yng nghyfarfod y cyngor... hoffai’r cyngor cymuned estyn yr ymddiheuriad hwn i drigolion Harlech nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.
“Yn dilyn y cyfarfod hwn cafodd y penderfyniad ei wneud, er bod gweithdrefnau ariannol y cyngor wedi eu tynhau yn unol ag adroddiad yr Archwiliwr Mewnol, i ffurfio is-bwyllgor i ystyried y ffordd ymlaen gyda materion ariannol.”
'Colli hyder'
"Yng nghyfarfod y cyngor ym mis Ionawr 2023, roedd y trysorydd wedi datgan bod £9,000 o arian parod wedi’i gymryd yn yr hyn a oedd yn ymddangos yn “sgam taliad gwthio awdurdodedig (APP).”
Roedd y digwyddiad yn ymwneud â “taliad ymlaen llaw” i berson o’r enw Oluwafeni Odunuga.
Dywedodd bod angen blaendal er mwyn “gwneud gwaith ymgynghorol” i’r cyngor.
Ym mis Gorffennaf, dywedodd clerc y cyngor cymuned, Annwen Hughes, sydd hefyd yn gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd dros Harlech a Llanbedr, a chadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae’r mater hwn wedi digwydd. Mae'r cyngor cymuned yn delio â hyn ac ni fydd yn cael ei drafod ymhellach.”
Dywedodd un o’r trigolion a fynychodd y cyfarfod ar 4 Medi: “Mae’n ymddangos bod trigolion lleol yn colli hyder yn y cyngor, daeth sawl un i ofyn cwestiynau yn y cyfarfod."
Mae Archwilio Cymru wedi cael gwybod am y mater ac yn dweud y bydd yn ymchwilio i'r mater hwn fel rhan o archwiliad y cyngor.
Dywedodd: “Unwaith y byddwn wedi cadarnhau bod y gwaith archwilio wedi’i gwblhau ar gyfer Cyngor Cymuned Harlech, byddwn yn gallu penderfynu sut i adrodd ar ganfyddiadau ein harchwiliad i’r cyngor.”
Llun: Google Maps