Newyddion S4C

Dwy ysgol o Gymru wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr addysg fyd-eang

12/09/2023
Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd

Mae ysgol yn ne Cymru a sefydlodd siop fwyd, golchdy a storfa gwisgoedd ysgol i gefnogi teuluoedd mewn trafferthion wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr addysg fyd-eang.

Mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri yn un o ddwy ysgol yn y DU sydd wedi cyrraedd y tair olaf yng ngwobrau Ysgol Orau’r Byd Addysg T4.

Mae'r ysgol wedi cyrraedd y rhestr am "oresgyn adfyd mewn cydnabyddiaeth o'u hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi bwyd yng nghanol yr argyfwng costau byw."

Ysgol arall yng Nghymru, Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd, sydd wedi cyrraedd y tair olaf yn y categori cgefnogi byw bywyd iach.

Mae'r ysgol ryngwladol yn cynnal rhaglen fugeiliol sydd wedi'i chynllunio i hybu iechyd meddwl a chorfforol cadarnhaol ymhlith eu myfyrwyr lefel A sydd yn cyflawni'r canlyniadau uchaf.

Helpu eraill

Bydd enillwyr pum gwobr World's Best School Prizes, sydd yn cael eu gwobrwyo i ysgolion ar sail cydweithredu cymunedol, gweithredu amgylcheddol, arloesi, goresgyn adfyd, a chefnogi bywydau iach yn derbyn £40,000.

Dywedodd Janet Hayward, pennaeth gweithredol Ysgol Gynradd Tregatwg, fod bron i ddau o bob pump (38%) o’u disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

“Mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar lawer o’n teuluoedd yn yr ardal hon," meddai.

"Rydyn ni wedi cael rhieni yn dod mewn dagrau oedd wedi darganfod eu hunain mewn sefyllfa nad oedden nhw erioed wedi profi o'r blaen.”

Fe wnaeth yr ysgol sefydli siop fwyd "talu beth chi'n teimlo" lle'r oedd modd i fyfyrwyr talu prisiau yr oeddynt yn gallu eu fforddio.

Image
Ysgol Tregatwg
Ysgol Gynradd Tregatwg. Llun: PA

Mae'r ysgol wedi gallu cynorthwyo dros 60 o ysgolion eraill ledled Cymru i sefydlu eu siopau 'Big Bocs Bwyd' eu hunain i helpu teuluoedd.

“Mae hyn yn gydnabyddiaeth wirioneddol o ymrwymiad anhygoel a gwaith caled ein cymuned, ein hysgol a’n teuluoedd sy’n angerddol yn yr ymdrech i gael gwared ar rwystrau a darparu’r profiadau bywyd gorau posibl i alluogi pawb i ffynnu," meddai Ms Hayward.

Dywedodd Gareth Collier, pennaeth Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd: “Rwy’n meddwl bod rhai o’r problemau a’r heriau mae ein myfyrwyr yn eu hwynebu yn dod o natur academaidd ddwys iawn yr ysgol.

“Rydyn ni wedi cael pobl yma sydd i bob pwrpas wedi symud o fod yn ynysig iawn, i bobl yma sy’n academaidd iawn ac yn allblyg iawn.”

'Ysbrydoliaeth'

Dywedodd Vikas Pota, sylfaenydd T4 Education bod gwaith yr ysgolion wedi ei ysbrydoli.

“Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Tregatwg a Choleg Chweched Dosbarth Caerdydd ar gael eu henwi’n y tri uchaf yn rownd derfynol World’s Best School Prizes 2023.

“Rydych chi, a’ch cyd-aelodau yn y rownd derfynol, wedi fy ysbrydoli gyda’ch arweinyddiaeth, y weledigaeth a’r diwylliant yr ydych wedi’u meithrin ac yr amgylchedd addysgu a dysgu eithriadol yr ydych wedi’i adeiladu.

“Wrth i’r byd geisio mynd i’r afael gydag argyfwng addysg sydd yn dyfnhau, mae’r ysgolion rhagorol hyn yn y DU yn goleuo’r llwybr at ddyfodol gwell."

Bydd enillwyr pob un o'r pum gwobr yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles: “Mae’n wych gweld dwy ysgol Gymraeg yn rownd derfynol y wobr hon.

“Rydw i mor falch o’r gwaith pwysig mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn ei wneud i gefnogi disgyblion a theuluoedd. Mae’r ysgol wedi bod yn rhan fawr o helpu Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol.

“Llongyfarchiadau i Goleg Chweched Dosbarth Caerdydd hefyd, mae’n wych clywed sut mae eu myfyrwyr wedi bod yn canolbwyntio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol – blaenoriaeth bwysig i bob ysgol yng Nghymru. Pob lwc pawb!”

Llun: PA / Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.