Dau lain glanio newydd i hofrenyddion yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor
Mae cynllun i ddatblygu dau lain glanio newydd i hofrenyddion mewn ysbyty yn y gogledd wedi cael sêl bendith.
Cytunodd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn unfrydol ddydd Llun i gynnig i gael gwared ar y safle glanio hofrennydd presennol ac i adeiladu dau fan glanio newydd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Daeth y cais cynllunio ar ôl asesiad o’r gwasanaeth presennol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd wedi adrodd “yr angen i uwchraddio a gwella’r ddarpariaeth ar gyfer hofrenyddion glanio” ar safle Penrhosgarnedd yng Ngwynedd.
Mae’r “gwasanaeth presennol wedi bod yn brysur iawn, yn enwedig o ystyried y ffaith bod poblogaeth y sir yn dyblu yn ystod misoedd yr haf, yn ogystal â phresenoldeb Parc Cenedlaethol Eryri yn yr ardal.”
Mae'r man glanio wedi ei leoli tua 150m i'r dwyrain o'r ysbyty, ar lain o dir llethrog, ar safle uchel uwchben y ddinas. Yn ôl yr Awdurdod Hedfan Sifil, mae’n “cynnig llwybrau hedfan da iawn i mewn ac allan o dir yr ysbyty.”
Byddai gwaith ar y safle yn cynnwys cael gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol, creu dwy lanfa newydd drwy ailraddio'r tirwedd a chreu dau glawdd gyda llain crwn y tu ôl iddynt.
Bydd hefyd yn golygu gosod lloriau caled ar gyfer padiau glanio, gwaith draenio dŵr, gosod rhwystrau glanio newydd wedi'u goleuo, codi ffensys diogelwch, creu llociau er mwyn cynnal a chadw'r hofrenyddion a gwaith peirianyddol cysylltiedig.
Ni ystyriwyd bod y cynllun yn cael “effaith andwyol” ar iechyd, diogelwch na mwynderau trigolion eiddo lleol neu’r ardal yn gyffredinol.