Llywodraeth y DU i wahardd fêps untro 'o fewn y dyddiau nesaf'
Fe allai gweinidogion Llywodraeth y DU wahardd gwerthu fêps defnydd untro o fewn y dyddiau nesaf, yn dilyn pryderon eu bod yn cael eu targedu at blant.
Mae pryder cynyddol am effaith y teclynnau ar iechyd pobl ifanc, gyda meddygon a grwpiau amgylcheddol wedi galw am eu gwahardd ers tro.
Y gred yw bod pum miliwn o'r teclynnau, sydd yn cynnwys batris lithiwm, yn cael eu taflu i ffwrdd bob wythnos yn y DU.
Yma yng Nghymru, fe allai gweinidogion ddefnyddio'r Ddeddf Cynhyrchion Plastig Untro i fynd i'r afael a fêps untro.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y bydd yn gweithredu yn erbyn y é-sigarets untro yn yr hydref.
Mae nifer o wledydd wedi gwahardd fêps untro yn barod, gan gynnwys Seland Newydd a'r Almaen, ac mae Ffrainc wedi cyhoeddi ei bwriad i wahardd y teclynnau hefyd.
Ym mis Gorffennaf fe alwodd aelodau seneddol yn San Steffan ar Lywodraeth y DU i osod cyfyngiadau ar farchnata fêps untro, sydd yn amlach na pheidio wedi cael eu pecynnu'n lliwgar, gan apelio at blant a phobl ifanc.
Wrth siarad gyda The Guardian, dywedodd llefarydd o'r Adran Iechyd yn Lloegr: “Rydym yn pryderu am y cynnydd mewn anweddu gan bobl ifanc ac effeithiau amgylcheddol anwedd untro.
“Dyna pam y gwnaethom lansio galwad am dystiolaeth i nodi cyfleoedd i leihau nifer y plant sy’n cyrchu a defnyddio cynhyrchion anwedd – ac archwilio i ble y gall y llywodraeth fynd ymhellach.
“Byddwn yn nodi ein hymateb maes o law.”