Kim Jong Un yn cyrraedd Rwsia ar gyfer trafodaethau
Mae arweinydd Gogledd Korea wedi cyrraedd Rwsia ar gyfer trafodaethau.
Fe wnaeth Kim Jong Un groesi'r ffin i mewn i'r wlad yn ninas Vladivostok ar ôl teithio yno ar y rheilffordd er mwyn cwrdd â Vladimir Putin yn ddiweddarach.
Dywedodd y Kremlin y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng y ddau arweinydd "yn y dyddiau nesaf."
Mae arweinydd Gogledd Korea wedi dod â swyddogion milwrol gydag ef ar y daith.
Mae disgwyl i’r ddwy wlad gwblhau cytundeb arfau a allai weld Pyongyang yn cyflenwi arfau ar gyfer ymgyrch filwrol Rwsia yn Wcráin.
Fe allai Gogledd Korea dderbyn cymorth dyngarol fel rhan o'r cytundeb hwn yn ôl adroddiadau.
Daw'r cyfarfod wrth i'r Unol Daleithiau America barhau i rybuddio Gogledd Korea yn erbyn helpu Rwsia yn y rhyfel yn Wcráin.
Mae’r Kremlin wedi dweud nad oes gan Rwsia “ddiddordeb” yn rhybuddion Washington ac yn hytrach bydd yn canolbwyntio ar fuddiannau Pyongyang a Moscow.