Newyddion S4C

Teyrnged teulu i ddyn a fu farw yn dilyn digwyddiad yn Llanelli

11/09/2023
Ashley Sarsero

Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn digwyddiad ym Maestir, Llanelli yn dweud y bydd "colled fawr ar ei ôl”.

Bu farw Ashley Sarsero, oedd yn 26 oed, yn oriau mân fore Sul, 10 Medi.

Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn ddyn y byddai'n "goleuo'r ystafell."

Mewn datganiad dywedodd y teulu: “Ein bachgen hardd gwerthfawr a fyddai’n goleuo'r ystafell. Brawd hoffus Emily, Rosie, Zach, Liam a phartner Jade. Mab ymroddedig Claire a Wayne.

"Mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym mewn ffordd drasig, bydd colled fawr ar ôl Ashley."

Mae’r teulu’n gofyn am breifatrwydd ac yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
 
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau ei farwolaeth.

Cafodd tri ddyn, 35, 36 a 38 oed eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ddydd Sul.

Mae’r tri yn parhau yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.

Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu cyfeirnod DP-20230910-089.

Llun teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.