Newyddion S4C

Un ymhob tri o fyfyrwyr meddygaeth y DU 'yn bwriadu ymfudo'

12/09/2023
Gwasanaeth brys

Mae un ymhob tri o fyfyrwyr meddygaeth y DU yn bwriadu ymfudo er mwyn ymarfer meddygaeth, ac ni fydd nifer ohonynt yn dychwelyd, yn ôl arolwg barn newydd. 

Mae canlyniadau'r astudiaeth, a oedd yn cynnwys dros 10,000 o fyfyrwyr o ysgolion meddygol y DU, yn awgrymu fod 32% yn bwriadu gadael i wledydd megis Awstralia, Seland Newydd a Chanada. 

Maent yn nodi mai'r rhesymau am hyn ydi cynigion tâl gwell, cydbwysedd bywyd a gwaith ac amodau gwell. 

Roedd tua 60% o'r bobl a gafodd eu holi yn anfodlon gyda'r syniad o weithio yn y GIG. 

Roedd yr astudiaeth yn edrych ar fwriad myfyrwyr meddygaeth ar ôl graddio a chwblhau eu rhaglen hyfforddiant sylfaen dwy-flynedd gyda'r gwasanaeth iechyd. 

Fe wnaeth cyfanswm o 32% ddweud eu bod yn bwriadu ymfudo i ymarfer meddygaeth, unai yn syth ar ôl graddio (6%), neu ar ôl cwblhau'r flwyddyn sylfaen gyntaf (32%), neu ar ôl cwblhau'r ail flwyddyn sylfaen (61%). 

'Colled'

Cafodd y grŵp yma eu holi wedyn am y tebygrwydd y byddant yn dychwelyd i'r DU.

Fe wnaeth 50% ddweud eu bod yn bwriadu dychwelyd ar ôl ychydig o flynyddoedd, tra dywedodd 8% eu bod yn bwriadu dychwelyd ar ôl cwblhau eu hyfforddiant meddygol dramor. 

Dywedodd y 43% oedd yn weddill nad oedd ganddynt unrhyw fwriad i ddychwelyd i'r DU. 

Dywedodd awduron yr astudiaeth: "Mae'r GIG yn wynebu prinder gweithlu, gyda thua 10,000 o ddoctoriaid yn ildio eu trwydded i ymarfer meddygaeth yn 2021, sy'n cynrychioli colled o bron i un-degfed o'r gweithlu meddygon."

Ychwanegodd yr awudron nad oedd yn "syndod" fod meddygon eisiau mynd i wledydd fel Awstralia o ystyried "y cyflogau uwch, adroddiadau o gydbwysedd bywyd a gwaith gwell a'r ffaith mai Saesneg ydy prif iaith y gwledydd hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.