Newyddion S4C

Carcharu dyn am 24 mlynedd am feithrin perthynas amhriodol â phlant

11/09/2023
Caleb Courtman

Mae dyn 20 oed o Abertawe wedi ei garcharu am 24 mlynedd am feithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein.

Fe wnaeth swyddogion POLIT ddarganfod fod gan Caleb Courtman dros 2,000 o luniau a fideos anweddus o blant ar ei ddyfeisiadau.

Roedd rhai o'r lluniau wedi eu cael yn uniongyrchol gan ddioddefwyr ifanc yr oedd wedi cymryd mantais ohonynt ar-lein. 

Fe wnaeth ditectifs arestio Courtman ar ôl derbyn gwybodaeth a oedd yn awgrymu fod deunydd wedi ei uwchlwytho yn anghyfreithlon o'i gyfeiriad cartref. 

Fe wnaeth ymchwiliad cymhleth ar y cyd rhwng tîm POLIT ac Arholwyr Fforensig Digidol ddatgelu fod Courtman wedi bod yn cyfathrebu gyda phlant cyn ifanced â naw oed ar wefannau cymdeithasol ac yn eu hannog, yn aml drwy eu bygwth, i gyflawni gweithredoedd rhywiol. 

Roedd mewn cyswllt â channoedd o blant ar hyd y DU, ond bellach mae dros 142 o blant wedi cael eu hadnabod a'u cadw yn ddiogel. 

Mae'r gwaith yn parhau i adnabod a diogelu'r holl blant sydd wedi bod mewn cyswllt â Courtman. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Natalie Revers: "Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad ofnadwy a hoffwn ddiolch i'r teuluoedd a'r plant sydd wedi cefnogi ymchwiliad yr heddlu ac rydym yn edmygu eich dewrder chi wrth siarad am hyn. 

"Rydym yn annog unrhyw un sy'n amau ei bod wedi bod yn ddioddefwr trais rhywiol ar-lein i roi gwybod i’r heddlu. Byddant yn cael eu trin ag urddas gan  ein swyddogion a'n gwasanaethau cefnogi."

Cafodd Courtman ei ddedfrydu i garchar am 24 mlynedd yn Llys y Goron Abertawe, ac mae hefyd wedi cael ei gynnwys ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.