Rhyddhad cwmni o Sir Gâr fod crefftwyr ym Moroco yn ddiogel
Mae cwmni Cymreig sy'n defnyddio deunydd o Foroco ar gyfer rhai o'u nwyddau wedi bod yn sôn am eu rhyddhad ar ôl cael gwybod bod y crefftwyr yno yn ddiogel.
Mae cwmni Cadwyn, sydd wedi ei leoli yn Llanfihangel ar Arth, Sir Gaerfyrddin yn mewnforio nwyddau fel bagiau bychain a phyrsiau o Foroco.
Nos Wener, tarodd daeargryn yn mesur 6.8 ar raddfa Richter fynyddoedd Atlas i’r de-orllewin o ddinas Marakesh. Ac yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, mae mwy na 2,000 o bobl wedi eu lladd.
Dywedodd Ffred Ffransis, sylfaenydd Cadwyn ei fod wedi cysylltu â'r crefftwyr.
"Nethon ni gysylltu trwy WhatsApp gyda'r crefftwyr a'u teuluoedd ddydd Sadwrn, a digwydd bod roedden nhw gyd yn iawn," meddai wrth Newyddion S4C.
"O'n nhw ddim wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol ond roedd effaith ar eu gwaith nhw ar y dydd, gyda’r cynhyrchu a bob dim."
Dim ond pythefnos yn ôl y derbyniodd cwmni Cadwyn nwyddau o Foroco, ac mae disgwyl i'r archeb nesaf gyrraedd yn y flwyddyn newydd.
Mae Ffred Ffransis yn annog pobl i gyfrannu er mwyn helpu pobl sydd yn dioddef effeithiau'r daeargryn.
" 'Dyn ni’n cyfrannu at apêl y gymdeithas ryngwladol Y Groes Goch a'r Cilgant Coch ac yn defnyddio’n cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol i annog pobl eraill i gyfrannu at honno," meddai.
40 o flynyddoedd
Dechreuodd Cadwyn gydweithio â chrefftwyr ym Moroco 40 mlynedd yn ôl pan aeth Mr Ffransis a'i wraig Meinir ar wyliau yno.
"Ni’n mynd yn ôl at yr 1980au pan roeddem wedi ymsefydlu fel cwmni," meddai.
"Ac fel rhan o’r broses, erbyn dechrau’r 80au, n'ethon ni ddechrau llosg ysgrifennu, enwedig enwau ar nwyddau pren a lledr.
"Roedd yn anodd yng Nghymru gan nad oedd enwau pobl ar nwyddau masnachol. Ond roedd dal dim diwydiant lledr yng Nghymru."
Mae Ffred Ffransis yn cofio cerdded trwy Marakesh lle'r oedd y crefftwyr ym masnachu, ac fe ddysgodd Ffrangeg er mwyn cyfathrebu â nhw.
"Dwi'n cofio bod o gwmpas nifer o’r crefftwyr lledr a mynd o le i le yn y prif ganolfannau, dod i wybod ble oedd y masnachwyr a dysgu Ffrangeg er mwyn masnachu.
"Erbyn diwedd y 199au oedd na rhai pyrsiau bach lledr o Marakesh ac roeddem yn llosgi enwau arnyn nhw, roeddem yn gwerthu tua 100,000 o unedau y flwyddyn."
Ar un adeg, fe deithiodd y crefftwyr o Foroco i Lanfihangel ar Arth.
"Roedd un adeg lle’r oedd archeb wedi mynd yn anghywir. 40,000 o byrsiau gyda buckles bach metal arnyn nhw a oedd y lledr heb sychu’n iawn a nathon nhw gyd dechrau rhydu.
"Doedd neb yn gallu cymryd y hit ariannol felly daeth dau ohonyn nhw draw i aros gyda ni yn y tŷ am dri mis yn yr haf yn gweld Cymru yn y dydd a newid 25,000 o buckles metals yn yr hwyr.
"Roedd y cyswllt i gyd yn bersonol, y parch a’r cyfeillgarwch personol gyda’r teuluoedd sydd yn cynhyrchu.
"Dyna’r fath o fasnach chi’n gallu gwneud gyda chysylltiad personol."
Llun: Facebook/Cadwyn/Wochit